information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Galarnad 4

Jerwsalem ar ôl ei Chwymp

1O fel y pylodd yr aur,

ac y newidiodd yr aur coeth!

Gwasgarwyd meini'r cysegr

ym mhen pob stryd.

2Plant gwerthfawr Seion,

a oedd yn werth eu pwysau mewn aur,

yn awr yn cael eu hystyried fel llestri pridd,

gwaith dwylo crochenydd!

3Y mae hyd yn oed siacaliaid yn dinoethi'r fron

i roi sugn i'w hepil,

ond y mae merch fy mhobl wedi mynd yn greulon,

fel estrys yn yr anialwch.

4Y mae tafod y plentyn sugno

yn glynu wrth ei daflod o syched;

y mae'r plant yn cardota bara,

heb neb yn ei roi iddynt.

5Y mae'r rhai a arferai fwyta danteithion

yn ddiymgeledd yn y strydoedd,

a'r rhai a fagwyd mewn ysgarlad

yn ymgreinio ar domennydd ysbwriel.

6Y mae trosedd merch fy mhobl

yn fwy na phechod Sodom,

a ddymchwelwyd yn ddisymwth

heb i neb godi llaw yn ei herbyn.

7Yr oedd ei thywysogion yn lanach nag eira,

yn wynnach na llaeth;

yr oedd eu cyrff yn gochach na chwrel,

a'u pryd fel saffir.

8Ond aeth eu hwynepryd yn dduach na pharddu,

ac nid oes neb yn eu hadnabod yn y strydoedd;

crebachodd eu croen am eu hesgyrn,

a sychodd fel pren.

9Yr oedd y rhai a laddwyd â'r cleddyf yn fwy ffodus

na'r rhai oedd yn marw o newyn,

oherwydd yr oeddent hwy yn dihoeni,

wedi eu hamddifadu o gynnyrch y meysydd.

10Yr oedd gwragedd tynergalon â'u dwylo eu hunain

yn berwi eu plant,

i'w gwneud yn fwyd iddynt eu hunain,

pan ddinistriwyd merch fy mhobl.

11Bwriodd yr ARGLWYDD ei holl lid,

a thywalltodd angerdd ei ddig;

cyneuodd dân yn Seion,

ac fe ysodd ei sylfeini.

12Ni chredai brenhinoedd y ddaear,

na'r un o drigolion y byd,

y gallai ymosodwr neu elyn

fynd i mewn trwy byrth Jerwsalem.

13Ond fe ddigwyddodd hyn oherwydd pechodau ei phroffwydi

a chamweddau ei hoffeiriaid,

a dywalltodd waed y cyfiawn yn ei chanol hi.

14Yr oeddent yn crwydro fel deillion yn y strydoedd,

wedi eu halogi â gwaed,

fel na feiddiai neb gyffwrdd â'u dillad.

15“Cadwch draw, maent yn aflan,”—dyna a waeddai pobl—

“cadwch draw, cadwch draw, peidiwch â'u cyffwrdd!”

Yn wir fe ffoesant a mynd ar grwydr,

a dywedwyd ymysg y cenhedloedd,

“Ni chânt aros yn ein plith mwyach.”

16Yr ARGLWYDD ei hun a'u gwasgarodd,

heb edrych arnynt mwyach;

ni roddwyd anrhydedd i'r offeiriaid,

na ffafr i'r henuriaid.

17Yr oedd ein llygaid yn pallu

wrth edrych yn ofer am gymorth;

buom yn disgwyl a disgwyl

wrth genedl na allai achub.

18Yr oeddent yn gwylio pob cam a gymerem,

fel na allem fynd allan i'n strydoedd.

Yr oedd ein diwedd yn agos, a'n dyddiau'n dod i ben;

yn wir fe ddaeth ein diwedd.

19Yr oedd ein herlidwyr yn gyflymach

nag eryrod yr awyr;

yr oeddent yn ein herlid ar y mynyddoedd,

ac yn gwylio amdanom yn y diffeithwch.

20Anadl ein bywyd, eneiniog yr ARGLWYDD,

a ddaliwyd yn eu maglau,

a ninnau wedi meddwl mai yn ei gysgod ef

y byddem yn byw'n ddiogel ymysg y cenhedloedd.

21Gorfoledda a bydd lawen, ferch Edom,

sy'n preswylio yng ngwlad Us!

Ond fe ddaw'r cwpan i tithau hefyd;

byddi'n feddw ac yn dy ddinoethi dy hun.

22Daeth terfyn ar dy gosb, ferch Seion;

ni chei dy gaethgludo eto.

Ond fe ddaw dy gosb arnat ti, ferch Edom;

fe ddatgelir dy bechod.