information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Galarnad 2

Cosb Jerwsalem

1O'r fath dywyllwch a ddygodd yr Arglwydd

ar ferch Seion yn ei ddig!

Bwriodd ogoniant Israel

o'r nefoedd i'r llawr,

ac ni chofiodd am ei droedfainc

yn nydd ei ddicter.

2Difethodd yr Arglwydd yn ddiarbed

holl drigfannau Jacob;

yn ei ddigofaint dinistriodd

amddiffynfeydd merch Jwda;

taflodd i lawr a difwynodd

y deyrnas a'i phenaethiaid.

3Yn angerdd ei ddig torrodd

gyrn Israel i gyd;

tynnodd yn ôl ei ddeheulaw

wrth i'r gelyn ymosod;

llosgodd yn Jacob fel fflam dân

yn difa popeth o'i hamgylch.

4Fel gelyn paratôdd ei fwa,

safodd â'i ddeheulaw'n barod,

ac fel gwrthwynebwr fe laddodd

y cyfan oedd yn ddymunol i'r llygad;

tywalltodd ei lid fel tân

ar babell merch Seion.

5Y mae'r Arglwydd wedi troi'n elyn

ac wedi difetha Israel;

difethodd ei holl balasau,

a dinistrio'i hamddiffynfeydd;

gwnaeth i alar a gofid

gynyddu i ferch Jwda.

6Chwalodd ei babell fel chwalu gardd,

a dinistrio'r man cyfarfod;

gwnaeth yr ARGLWYDD i Seion anghofio

ei gŵyl a'i Saboth;

yn angerdd ei lid dirmygodd

frenin ac offeiriad.

7Gwrthododd yr Arglwydd ei allor,

a ffieiddio'i gysegr;

rhoddodd furiau ei phalasau

yn llaw'r gelyn;

gwaeddasant hwythau yn nhŷ'r ARGLWYDD

fel ar ddydd gŵyl.

8Yr oedd yr ARGLWYDD yn benderfynol

o ddinistrio mur merch Seion;

gosododd linyn mesur arni,

ac ni thynnodd yn ôl ei law rhag difetha.

Gwnaeth i wrthglawdd a mur alaru;

aethant i gyd yn wan.

9Suddodd ei phyrth i'r ddaear;

torrodd a maluriodd ef ei barrau.

Y mae ei brenin a'i phenaethiaid ymysg y cenhedloedd,

ac nid oes cyfraith mwyach;

ni chaiff ei phroffwydi

weledigaeth gan yr ARGLWYDD.

10Y mae henuriaid merch Seion

yn eistedd yn fud ar y ddaear,

wedi taflu llwch ar eu pennau

a gwisgo sachliain;

y mae merched ifainc Jerwsalem

wedi crymu eu pennau i'r llawr.

11Dallwyd fy llygaid gan ddagrau;

y mae f'ymysgaroedd mewn poen.

Yr wyf yn tywallt fy nghalon allan

o achos dinistr merch fy mhobl,

ac am fod plant a babanod yn llewygu

yn strydoedd y ddinas.

12Yr oeddent yn gweiddi ar eu mamau,

“Ple cawn ni rawn a gwin?”—

wrth iddynt lewygu fel rhai clwyfedig

yn strydoedd y ddinas,

ac wrth iddynt ymladd am eu bywyd

ym mynwes eu mamau.

13Beth allaf ei ddweud o'th blaid,

a beth a ddychmygaf amdanat, ferch Jerwsalem?

I bwy y gallaf dy gyffelybu er mwyn dy gysur,

y forwyn, ferch Seion?

Y mae dy ddolur mor ddwfn â'r môr,

pwy a all dy iacháu?

14Yr oedd gweledigaethau dy broffwydi

yn gelwyddog a thwyllodrus;

ni fu iddynt ddatgelu dy gamwedd

er mwyn adfer dy lwyddiant;

yr oedd yr oraclau a roddasant iti

yn gelwyddog a chamarweiniol.

15Y mae pob un sy'n mynd heibio

yn curo'i ddwylo o'th achos;

y maent yn chwibanu ac yn ysgwyd eu pennau

ar ferch Jerwsalem:

“Ai hon yw'r ddinas a gyfrifid yn goron prydferthwch,

ac yn llawenydd yr holl ddaear?”

16Y mae dy holl elynion

yn gweiddi'n groch yn dy erbyn,

yn chwibanu ac yn ysgyrnygu dannedd;

dywedant, “Yr ydym wedi ei difetha;

dyma'r dydd yr oeddem yn disgwyl amdano;

yr ydym wedi cael ei weld!”

17Gwnaeth yr ARGLWYDD yr hyn a gynlluniodd;

cyflawnodd ei fwriad,

a drefnodd ers amser maith,

a dinistriodd yn ddiarbed;

gwnaeth i'r gelyn lawenhau o'th achos,

a dyrchafu corn dy wrthwynebwyr.

18Gwaedda ar yr Arglwydd,

O fur merch Seion;

tywallt ddagrau'n genllif ddydd a nos;

paid ag ymatal na rhoi gorffwys i'th lygaid.

19Cod, a gwaedda liw nos,

ar gychwyn pob gwyliadwriaeth;

tywallt dy galon fel dŵr

o flaen yr Arglwydd;

estyn dy ddwylo tuag ato

am fywyd dy blant,

sy'n llewygu gan newyn

ym mhen pob stryd.

20Edrych, ARGLWYDD, a gwêl.

I bwy y gwnaethost hyn?

A yw'r gwragedd i fwyta'u hepil,

y plant y maent yn eu hanwesu?

A leddir offeiriad a phroffwyd

yng nghysegr yr Arglwydd?

21Gorwedd yr ifanc a'r hen

yn y llwch ar y strydoedd;

y mae fy merched a'm dynion ifainc

wedi syrthio trwy'r cleddyf;

lleddaist hwy yn nydd dy ddicter,

a'u difa'n ddiarbed.

22Gelwaist ar fy ymosodwyr o bob cyfeiriad,

fel ar ddydd gŵyl;

nid oedd un yn dianc nac yn cael ei arbed

yn nydd dicter yr ARGLWYDD;

lladdodd fy ngelyn

bob un a anwesais ac a fegais.

Notes for verses 17–221 entry

Text notes