information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Jona 2

Gweddi Jona

1Yna gweddïodd Jona ar yr ARGLWYDD ei Dduw o fol y pysgodyn a dweud,

2“Gelwais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder, ac atebodd fi;

o ddyfnder Sheol y gwaeddais, a chlywaist fy llais.

3Teflaist fi i'r dyfnder, i eigion y môr, a'r llanw yn f'amgylchu;

yr oedd dy holl donnau a'th lifeiriant yn mynd dros fy mhen.

4Yna dywedais, ‘Fe'm gyrrwyd allan o'th olwg di;

sut y caf edrych eto ar dy deml sanctaidd?’

5Caeodd y dyfroedd amdanaf, a'r dyfnder o'm cwmpas;

clymodd y gwymon am fy mhen wrth wreiddiau'r mynyddoedd;

6euthum i lawr i'r wlad y caeodd ei bolltau arnaf am byth.

Eto, dygaist fy mywyd i fyny o'r pwll, O ARGLWYDD fy Nuw.

7Pan deimlais fy hun yn llewygu, cofiais am yr ARGLWYDD,

a daeth fy ngweddi atat i'th deml sanctaidd.

8Y mae'r rhai sy'n addoli eilunod gwag yn gwadu eu teyrngarwch.

9Ond aberthaf i ti â chân o ddiolch.

Talaf yr hyn a addunedais;

i'r ARGLWYDD y perthyn gwaredu.”

10A llefarodd yr ARGLWYDD wrth y pysgodyn, a chwydodd yntau Jona ar y lan.