information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Jeremeia 9

1O na bai fy mhen yn ddyfroedd, a'm llygaid yn ffynnon o ddagrau!

Wylwn ddydd a nos am laddedigion merch fy mhobl.

2O na bai gennyf yn yr anialwch lety fforddolion!

Gadawn fy mhobl, a mynd i ffwrdd oddi wrthynt.

Canys y maent oll yn odinebwyr, ac yn gwmni o dwyllwyr.

3“Plygasant eu tafod, fel bwa, i gelwydd;

ac nid ar bwys gwirionedd yr aethant yn gryf yn y wlad.

Aethant o un drwg i'r llall, ac nid ydynt yn fy adnabod i,” medd yr ARGLWYDD.

Notes for verses 1–31 entry

Text notes

4“Gocheled pob un ei gymydog, ac na rodded neb goel ar ei berthynas;

canys yn sicr disodlwr yw pob perthynas, ac enllibiwr yw pob cymydog.

5Y mae pob un yn twyllo'i gymydog, heb ddweud y gwir;

dysgodd i'w dafod ddweud celwydd,

troseddodd, ac ymflino nes methu edifarhau.

6Pentyrrant ormes ar ormes, twyll ar dwyll;

gwrthodant fy adnabod i,” medd yr ARGLWYDD.

7Am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:

“Rwyf am eu toddi a'u puro hwy.

Beth arall a wnaf o achos merch fy mhobl?

8Saeth yn lladd yw eu tafod; y mae'n llefaru'n dwyllodrus.

Y mae'n traethu heddwch wrth ei gymydog, ond yn ei galon yn gosod cynllwyn iddo.

9Onid ymwelaf â hwy am y pethau hyn?” medd yr ARGLWYDD.

“Oni ddialaf ar y fath genedl â hon?

10Codaf wylofain a chwynfan am y mynyddoedd, a galarnad am lanerchau'r anialwch;

canys y maent wedi eu dinistrio fel nad â neb heibio, ac ni chlywant fref y gwartheg;

y mae adar y nef a'r anifeiliaid hefyd wedi ffoi ymaith.

11Gwnaf Jerwsalem yn garneddau ac yn drigfan bleiddiaid;

a gwnaf ddinasoedd Jwda yn ddiffeithwch heb breswylydd.”

Notes for verses 4–111 entry

Text notes

12Pwy sy'n ddigon doeth i ddeall hyn? Wrth bwy y traethodd genau yr ARGLWYDD, er mwyn iddo fynegi? Pam y dinistriwyd y tir, a'i ddifa fel anialwch heb neb yn ei dramwyo?

13Dywedodd yr ARGLWYDD, “Am iddynt wrthod fy nghyfraith a roddais o'u blaen hwy, heb ei dilyn a heb wrando ar fy llais, 14ond rhodio yn ôl ystyfnigrwydd eu calon, a dilyn Baalim, fel y dysgodd eu hynafiaid iddynt, 15am hynny fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Wele, bwydaf y bobl hyn â wermod, a'u diodi â dŵr gwenwynig. 16Gwasgaraf hwy ymysg cenhedloedd nad ydynt hwy na'u hynafiaid wedi eu hadnabod, ac anfonaf gleddyf ar eu hôl nes gorffen eu difetha.”

Cwynfan yn Jerwsalem

17Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:

“Ystyriwch! Galwch ar y galar-wragedd i ddod;

anfonwch am y gwragedd medrus, iddynt hwythau ddod.

18Bydded iddynt frysio, a chodi cwynfan amdanom,

er mwyn i'n llygaid ollwng dagrau,

a'n hamrannau ddiferu dŵr.

19Canys clywyd sŵn cwynfan o Seion,

‘Pa fodd yr aethom yn anrhaith,

a'n gwaradwyddo yn llwyr?

Gadawsom ein gwlad, bwriwyd i lawr ein trigfannau.’ ”

20Clywch, wragedd, air yr ARGLWYDD,

a derbynied eich clust air ei enau ef.

Dysgwch gwynfan i'ch merched,

a galargan bawb i'w gilydd.

21Y mae angau wedi dringo trwy ein ffenestri,

a dod i'n palasau,

i ysgubo'r plant o'r heolydd

a'r rhai ifainc o'r lleoedd agored.

22Llefara, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:

“ ‘Bydd celaneddau yn disgyn fel tom ar wyneb maes,

fel ysgubau ar ôl y medelwr heb neb i'w cynnull.’ ”

23Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:

“Nac ymffrostied y doeth yn ei ddoethineb,

na'r cryf yn ei gryfder, na'r cyfoethog yn ei gyfoeth.

24“Ond y sawl sy'n ymffrostio, ymffrostied yn hyn: ei fod yn fy neall ac yn fy adnabod i, mai myfi yw'r ARGLWYDD, sy'n gweithredu'n ffyddlon, yn gwneud barn a chyfiawnder ar y ddaear, ac yn ymhyfrydu yn y pethau hyn,” medd yr ARGLWYDD. 25“Wele'r dyddiau yn dod,” medd yr ARGLWYDD, “pan gosbaf bob cenedl enwaededig, 26sef yr Aifft, Jwda ac Edom, plant Ammon a Moab, a phawb o drigolion yr anialwch sydd â'u talcennau'n foel. Oherwydd y mae'r holl genhedloedd yn ddienwaededig, a holl dŷ Israel heb enwaedu arnynt yn eu calon.”