information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Jeremeia 6

Gwarchae ar Jerwsalem

1“Ffowch, blant Benjamin, o ganol Jerwsalem.

Canwch utgorn yn Tecoa, a chodwch ffagl ar Beth-hacerem,

oherwydd y mae drwg yn crynhoi o'r gogledd, a dinistr mawr.

2Yr wyf am ddinistrio merch Seion, y ferch deg, foethus.

3Fe ddaw bugeiliaid â'u praidd hyd ati,

gosodant bebyll o'i chylch, a phorant bob un yn ei lain ei hun.

4‘Paratowch ryfel sanctaidd yn ei herbyn;

codwch, awn i fyny ganol dydd.

Gwae ni! Ciliodd y dydd ac y mae cysgodau'r hwyr yn ymestyn.

5Codwch, awn i fyny liw nos a distrywiwn ei phalasau.’ ”

6Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:

“Torrwch goed, a chodwch glawdd yn erbyn Jerwsalem;

hon yw'r ddinas i'w chosbi, nid oes dim ond gorthrymder o'i mewn.

7Fel y mae dyfroedd yn tarddu mewn ffynnon,

felly y mae ei drygioni ynddi hi.

Am drais ac ysbail y clywir ynddi;

gwaeledd a chleisiau sydd yn wastad ger fy mron.

8Cymer wers, O Jerwsalem, rhag i mi dy adael yn llwyr,

rhag i mi dy wneud yn anrhaith, yn dir anghyfannedd.”

Israel Wrthryfelgar

9Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:

“Lloffa weddill Israel yn lân, fel lloffa gwinwydd;

fel casglwr grawnwin tyn dy law eilwaith dros y brigau.”

10Â phwy y llefaraf i'w rhybuddio, a pheri iddynt glywed?

Wele, y mae eu clust yn gaeedig, ac ni allant ddal sylw.

Wele, y mae gair yr ARGLWYDD yn ddirmyg iddynt; nid ydynt yn ei ddymuno.

11Yr wyf finnau'n llawn o lid yr ARGLWYDD; yr wyf wedi blino ar ymatal.

Notes for verses 10–111 entry

Text notes

“Tywelltir ef ar y plant yn yr heol,

ac ar gynulliadau'r ifainc hefyd;

delir y gŵr a'r wraig fel ei gilydd,

yr hynafgwr a'r aeddfed mewn dyddiau.

12Trosglwyddir eu tai i eraill,

a'u meysydd a'u gwragedd ynghyd;

canys estynnaf fy llaw ar drigolion y wlad,” medd yr ARGLWYDD.

13“O'r lleiaf hyd y mwyaf ohonynt, y mae pob un yn awchu am elw;

o'r proffwyd i'r offeiriad, y maent bob un yn gweithredu'n ffals.

14Dim ond yn arwynebol y maent wedi iacháu briw fy mhobl,

gan ddweud, ‘Heddwch! Heddwch!’—ac nid oes heddwch.

15A oes arnynt gywilydd pan wnânt ffieidd-dra?

Dim cywilydd o gwbl, ac ni allant wrido.

Am hynny fe syrthiant gyda'r syrthiedig;

yn nydd eu cosbi fe gwympant,” medd yr ARGLWYDD.

Israel yn Gwrthod Ffordd Duw

16Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Safwch ar y ffyrdd; edrychwch, ac ymofyn am yr hen lwybrau. Ple bynnag y cewch ffordd dda, rhodiwch ynddi, ac fe gewch le i orffwys.” Ond dywedasant, “Ni rodiwn ni ddim ynddi.” 17“Gosodaf wylwyr drosoch,” meddai, “gwrandewch ar sain yr utgorn.” Ond dywedasant, “Ni wrandawn ni ddim.” 18“Am hynny clywch, genhedloedd, a gwybydd, gynulliad, beth a ddigwydd iddynt. 19Clyw, wlad, rwyf am ddwyn drwg ar y bobl hyn, ffrwyth eu bwriadau hwy eu hunain. Ni wrandawsant ar fy ngeiriau, a gwrthodasant fy nghyfraith. 20Pam y cludir i mi thus o Sheba, a chorsen bêr o wlad bell? Nid oes pleser i mi yn eich poethoffrwm, na boddhad yn eich aberth.”

21Am hynny fe ddywed yr ARGLWYDD,

“Rwyf am osod i'r bobl hyn feini tramgwydd a'u dwg i lawr;

tadau a phlant ynghyd, cymydog a chyfaill, fe'u difethir.”

22Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:

“Wele, y mae pobl yn dod o dir y gogledd;

cenedl gref yn ymysgwyd o bellafoedd y ddaear.

23Gafaelant mewn bwa a gwaywffon, y maent yn greulon a didostur;

y mae eu twrf fel y môr yn rhuo, marchogant feirch,

a dod yn rhengoedd, fel gwŷr yn mynd i ryfela, yn dy erbyn di, ferch Seion.”

24Clywsom y newydd amdanynt, a llaesodd ein dwylo;

daliwyd ni gan ddychryn, gwewyr fel gwraig yn esgor.

25Paid â mynd allan i'r maes, na rhodio ar y ffordd,

oherwydd y mae gan y gelyn gleddyf, ac y mae dychryn ar bob llaw.

26Merch fy mhobl, gwisga sachliain, ymdreigla yn y lludw;

gwna alarnad fel am unig blentyn, galarnad chwerw;

oherwydd yn ddisymwth y daw'r distrywiwr arnom.

27“Gosodais di yn safonwr ac yn brofwr ymhlith fy mhobl,

i wybod ac i brofi eu ffyrdd.

28Y maent i gyd yn gyndyn ac ystyfnig, yn byw yn enllibus.

Pres a haearn ydynt; y maent i gyd yn peri distryw.

29Y mae'r fegin yn chwythu'n gryf, a'r plwm wedi darfod gan y tân;

yn ofer y toddodd y toddydd, oherwydd ni symudwyd y drygioni.

30Arian gwrthodedig y gelwir hwy, oherwydd gwrthododd yr ARGLWYDD hwy.”