information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Jeremeia 11

Jeremeia a'r Cyfamod

1Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD: 2“Clywch eiriau'r cyfamod hwn, a llefarwch wrth bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem, 3a dweud wrthynt, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: Melltith ar y sawl na wrendy ar eiriau'r cyfamod hwn, 4a orchmynnais i'ch hynafiaid y dydd y dygais hwy allan o'r Aifft, o'r ffwrnais haearn, a dweud, “Gwrandewch arnaf, a gwnewch yn unol â'r hyn a orchmynnaf i chwi; a byddwch yn bobl i mi, a byddaf finnau'n Dduw i chwi.” 5Fel hyn y gwireddir y llw a dyngais i'ch hynafiaid, i roi iddynt wlad yn llifeirio o laeth a mêl, fel y mae heddiw.’ ” Atebais innau, “Amen, ARGLWYDD.”

6Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Cyhoedda'r holl eiriau hyn yn ninasoedd Jwda ac yn heolydd Jerwsalem, a dywed, ‘Clywch eiriau'r cyfamod hwn, a'u gwneud. 7Oherwydd rhybuddiais eich hynafiaid o'r dydd y dygais hwy o'r Aifft hyd y dydd hwn; rhybuddiais hwy yn ddifrifol, a dweud, “Gwrandewch arnaf.” 8Ond ni wrandawsant, nac estyn clust i glywed, ond rhodiodd pob un yn ôl ystyfnigrwydd ei galon ddrygionus. Felly dygais arnynt holl eiriau'r cyfamod hwn y gorchmynnais iddynt ei wneud ond na wnaethant.’ ”

9Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Cafwyd cynllwyn ymhlith pobl Jwda a thrigolion Jerwsalem. 10Troesant yn ôl at ddrygioni eu hynafiaid gynt pan wrthodent wrando fy ngeiriau. Aethant ar ôl duwiau eraill i'w gwasanaethu, a thorrodd tŷ Israel a thŷ Jwda fy nghyfamod, a wneuthum â'u hynafiaid. 11Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Rwyf am ddwyn drwg arnynt na allant ei osgoi; a gwaeddant arnaf, ond ni wrandawaf. 12Yna fe â dinasoedd Jwda a thrigolion Jerwsalem i weiddi ar y duwiau yr arferent arogldarthu iddynt, ond yn sicr ni allant hwy eu gwaredu yn amser eu drygfyd. 13Yn wir, y mae dy dduwiau mor aml â'th ddinasoedd, O Jwda, ac wrth nifer heolydd Jerwsalem codasoch allorau er cywilydd, allorau i arogldarthu i Baal.”

14“Ond amdanat ti, paid â gweddïo dros y bobl hyn, na chodi cri na gweddi, oherwydd ni fynnaf wrando pan alwant arnaf yn ystod eu drygfyd.”

15“Beth sydd a wnelo f'anwylyd â'm tŷ,

a hithau'n cyflawni gweithredoedd ysgeler?

A all llwon, neu gig sanctaidd, droi dy ddinistr heibio,

fel y gelli lawenychu?

16Olewydden ddeiliog deg a ffrwythlon y galwodd yr ARGLWYDD di;

ond â thrwst cynnwrf mawr fe gyneua dân ynddi,

ac ysir ei changau.”

Notes for verses 15–161 entry

Text notes

17“ ARGLWYDD y Lluoedd, yr un a'th blannodd, a draetha ddrwg yn dy erbyn, oherwydd y drygioni a wnaeth tŷ Israel a thŷ Jwda, gan fy nigio ac arogldarthu i Baal.”

18Yr ARGLWYDD a'm hysbysodd, a mi a'i gwn; dangosodd i mi eu gweithredoedd. 19Yr oeddwn innau fel oen tyner yn cael ei arwain i'w ladd, ac ni wyddwn mai ar fy nghyfer i y gosodent gynllwynion, gan ddweud, “Distrywiwn y pren a'i ffrwyth; torrwn ef ymaith o dir y rhai byw, fel na chofir ei enw mwy.”

20O ARGLWYDD y Lluoedd, barnwr cyfiawn,

chwiliwr y galon a'r deall,

rho i mi weld dy ddialedd arnynt,

canys i ti y datguddiaf fy nghwyn.

21Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am bobl Anathoth, sydd yn ceisio fy einioes ac yn dweud, “Paid â phroffwydo mwyach yn enw yr ARGLWYDD, ac ni fyddi farw trwy ein dwylo ni.” 22Am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Rwyf am ddial arnynt; bydd eu gwŷr ifainc farw trwy'r cleddyf, a'u meibion a'u merched o newyn; 23ac ni bydd gweddill ohonynt. Dygaf ddrygfyd ar bobl Anathoth ym mlwyddyn eu cosbi.”

Notes for verses 21–231 entry

Text notes