Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseia 8

Arwydd i'r Bobl

1Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Cymer sgrôl fawr ac ysgrifenna arni mewn llythrennau eglur, ‘I Maher-shalal-has-bas ’; 2a galw yn dystion cywir i mi Ureia yr offeiriad a Sechareia fab Jeberecheia.” 3Yna euthum at y broffwydes; beichiogodd hithau ac esgor ar fab, a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Galw ei enw Maher-shalal-has-bas, 4oherwydd cyn i'r bachgen fedru galw, ‘Fy nhad’ neu ‘Fy mam’, bydd golud Damascus ac ysbail Samaria yn cael eu dwyn ymaith o flaen brenin Asyria.”

Notes for verses 1–42 entries

Text notes

Dinistr Brenin Asyria

5Llefarodd yr ARGLWYDD wrthyf drachefn,

6“Oherwydd i'r bobl hyn wrthod

dyfroedd Siloa, sy'n llifo'n dawel,

a chrynu gan ofn o flaen Resin a mab Remaleia,

7am hynny, bydd yr ARGLWYDD yn dwyn arnynt

ddyfroedd yr Ewffrates, yn gryf ac yn fawr,

brenin Asyria a'i holl ogoniant.

Fe lifa dros ei holl sianelau,

a thorri dros ei holl gamlesydd;

8fe ysguba trwy Jwda fel dilyw,

a gorlifo nes cyrraedd at y gwddf.

Bydd cysgod ei adenydd yn llenwi holl led dy dir,

O Immanuel.”

Notes for verses 6–82 entries

Text notes

9Ystyriwch, bobloedd, fe'ch dryllir;

gwrandewch, chwi bellafion byd;

ymwregyswch, ac fe'ch dryllir;

ymwregyswch, ac fe'ch dryllir.

10Lluniwch gyngor, ac fe'i diddymir;

dywedwch air, ac ni saif,

Oherwydd y mae Duw gyda ni.

Notes for verses 9–102 entries

Text notes

Ofni Duw

11Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, pan oedd yn gafael yn dynn ynof ac yn fy rhybuddio rhag rhodio yn llwybrau'r bobl hyn:

12“Peidiwch â dweud ‘Cynllwyn!’

am bob peth a elwir yn gynllwyn gan y bobl hyn;

a pheidiwch ag ofni'r hyn y maent hwy yn ei ofni,

nac arswydo rhagddo.

13Ond ystyriwch yn sanctaidd ARGLWYDD y Lluoedd;

ofnwch ef, ac arswydwch rhagddo ef.

14Bydd ef yn fagl,

ac i ddau dŷ Israel bydd yn faen tramgwydd ac yn graig rhwystr;

bydd yn rhwyd ac yn fagl i drigolion Jerwsalem.

15A bydd llawer yn baglu drostynt;

syrthiant, ac fe'u dryllir;

cânt eu baglu a'u dal.”

Notes for verses 12–151 entry

Text notes

16Rhwyma'r dystiolaeth,

selia'r gyfraith ymhlith fy nisgyblion.

17Disgwyliaf finnau am yr ARGLWYDD,

sy'n cuddio'i wyneb rhag tŷ Jacob;

arhosaf yn eiddgar amdano.

18Wele fi a'r meibion a roes yr ARGLWYDD i mi yn arwyddion ac yn argoelion yn Israel oddi wrth ARGLWYDD y Lluoedd, sy'n trigo ym Mynydd Seion.

19A phan fydd y bobl yn dweud wrthych, “Ewch i ymofyn â'r swynwyr a'r dewiniaid sy'n sisial a sibrwd”, onid yw'r bobl yn ymhél â'r duwiau, ac yn ymofyn â'r meirw dros y byw 20am gyfarwyddyd a thystiolaeth? Dyma'r gair a ddywedant, ac nid oes oleuni ynddo. 21Bydd yn tramwy trwy'r wlad mewn caledi a newyn; a phan newyna bydd yn chwerwi, ac yn melltithio ei frenin a'i Dduw. 22A phan fydd yn troi ei olwg tuag i fyny neu'n edrych tua'r ddaear, wele drallod a thywyllwch, caddug cyfyngder; bydd wedi ei fwrw i dywyllwch du.

Notes for verses 19–221 entry

Text notes