Eseia 66
Gobaith yn Nuw
1Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Y nefoedd yw fy ngorsedd, a'r ddaear fy nhroedfainc;
ple, felly, y codwch dŷ i mi,
a phle y caf fan i orffwys?
2Fy llaw i a wnaeth y pethau hyn i gyd,
a'r eiddof fi yw pob peth,” medd yr ARGLWYDD.
“Ond fe edrychaf ar y truan,
yr un o ysbryd gostyngedig,
ac sy'n parchu fy ngair.
Notes for verses 1–21 entry
Text notes
Isaiah 66:2 Felly Groeg. Hebraeg, ac y mae. View in passage
3“Prun ai lladd ych ai lladd dyn,
ai aberthu oen ai tagu ci,
ai offrymu bwydoffrwm ai aberthu gwaed moch,
ai arogldarthu thus ai bendithio eilun,
dewis eu ffordd eu hunain y maent,
ac ymhyfrydu yn eu ffieidd-dra
4Ond dewisaf fi ofid iddynt,
a dwyn arnynt yr hyn a ofnant;
oherwydd pan elwais, ni chefais ateb,
pan leferais, ni wrandawsant;
gwnaethant bethau sydd yn atgas gennyf,
a dewis yr hyn nad yw wrth fy modd.”
5Clywch air yr ARGLWYDD,
chwi sy'n parchu ei air:
“Dywedodd eich tylwyth sy'n eich casáu,
ac sy'n eich gwrthod oherwydd fy enw,
‘Bydded i'r ARGLWYDD gael ei ogoneddu,
er mwyn i ni weld eich llawenydd.’
Ond cywilyddir hwy.
6Clywch! Gwaedd o'r ddinas, llef o'r deml,
sŵn yr ARGLWYDD yn talu'r pwyth i'w elynion.
7“A fydd gwraig yn esgor cyn dechrau ei phoenau?
A yw'n geni plentyn cyn i'w gwewyr ddod arni?
8A glywodd rhywun am y fath beth?
A welodd rhywun rywbeth tebyg?
A ddaw gwlad i fod mewn un dydd?
A enir cenedl ar unwaith?
Ond gyda bod Seion yn clafychu,
bydd yn esgor ar ei phlant.
9A ddygaf fi at y geni heb beri esgor?”
medd yr ARGLWYDD.
“A baraf fi esgor ac yna'i rwystro?”
medd dy Dduw.
10“Llawenhewch gyda Jerwsalem, a byddwch yn falch o'i herwydd,
bawb sy'n ei charu;
llawenhewch gyda hi â'ch holl galon,
bawb a fu'n galaru o'i phlegid,
11er mwyn ichwi fedru sugno a chael eich diwallu
o'i bronnau diddanus,
er mwyn ichwi fedru tynnu arni a chael eich diddanu
gan ddigonedd ei gogoniant.”
12Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Edrychwch, rwy'n estyn iddi heddwch fel afon,
a golud y cenhedloedd fel ffrwd lifeiriol.
Cewch sugno, cewch eich cludo ar ei hystlys,
a'ch siglo ar ei gliniau.
13Fel y cysurir plentyn gan ei fam
byddaf fi'n eich cysuro chwi;
ac yn Jerwsalem y'ch cysurir.
14Cewch weld hyn, a bydd yn llawenydd i'ch calon,
bydd eich holl gorff yn ffynnu fel llysieuyn;
dangosir bod llaw yr ARGLWYDD gyda'i weision,
a'i lid yn erbyn ei elynion.
15Edrychwch, y mae'r ARGLWYDD yn dod â thân,
a'i gerbydau fel corwynt,
i dalu'r pwyth mewn llid dicllon,
ac i geryddu â fflamau tân.
16Oherwydd trwy dân y bydd yr ARGLWYDD yn barnu,
a thrwy gleddyf yn erbyn pob cnawd;
a lleddir llawer gan yr ARGLWYDD.
17“Pawb sy'n ymgysegru ac yn eu puro eu hunain ar gyfer y gerddi, ac yn gorymdeithio trwyddynt, ac yn bwyta cig moch, ymlusgiaid, a llygod—daw diwedd ar eu gwaith a'u bwriad,” medd yr ARGLWYDD.
Notes for verse 172 entries
Text notes
Isaiah 66:17 Hebraeg, ffieidd-dra. View in passage
Isaiah 66:17 Hebraeg, eu gwaith a'u bwriad yn adn. 18. View in passage
18“Rwyf fi'n dod i gasglu ynghyd bob cenedl ac iaith; a dônt i weld fy ngogoniant. 19Gosodaf arwydd yn eu mysg, ac anfonaf rai o'u gwaredigion at y cenhedloedd, i Tarsis, Put, Lydia, Mesech, Tubal a Jafan, ac ynysoedd pell, na chlywsant sôn amdanaf na gweld fy ngogoniant; a chyhoeddant hwy fy ngogoniant i'r cenhedloedd. 20Dygant eich tylwyth i gyd o blith yr holl genhedloedd yn fwydoffrwm i'r ARGLWYDD; ar feirch, mewn cerbydau a gwageni, ar fulod a chamelod y dônt i'm mynydd sanctaidd, Jerwsalem,” medd yr ARGLWYDD, “yn union fel y bydd plant Israel yn dwyn y bwydoffrwm mewn llestr glân i dŷ'r ARGLWYDD. 21A byddaf yn dewis rhai ohonynt yn offeiriaid ac yn Lefiaid,” medd yr ARGLWYDD.
Notes for verses 18–211 entry
Text notes
Isaiah 66:19 Felly Groeg, Hebraeg, y rhai sy'n tynnu bwa. View in passage
22“Fel y bydd y nefoedd newydd a'r ddaear newydd,
yr wyf fi yn eu creu, yn parhau ger fy mron,” medd yr ARGLWYDD,
“felly y parha eich had a'ch enw chwi.
23O fis i fis, o Saboth i Saboth,
daw pob cnawd i ymgrymu o'm blaen,” medd yr ARGLWYDD.
24“Ac ânt allan a gweld
celanedd y rhai a bechodd yn f'erbyn;
ni bydd eu pryf yn marw,
na'u tân yn diffodd;
a byddant yn ffiaidd gan bawb.”