information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseia 50

Pechod Israel ac Ufudd-dod y Gwas

1Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:

“Ple, felly, mae llythyr ysgar eich mam,

a roddais i'w gyrru ymaith?

Neu, i ba echwynnwr y gwerthais chwi?

O achos eich camweddau y gwerthwyd chwi,

ac oherwydd eich troseddau y gyrrwyd eich mam ymaith.

2Pam nad oedd neb yma pan ddeuthum,

na neb yn ateb pan elwais?

A yw fy llaw yn rhy fyr i achub,

neu a wyf yn rhy wan i waredu?

Gwelwch, rwy'n sychu'r môr â'm dicter,

ac yn troi afonydd yn ddiffeithwch;

y mae eu pysgod yn drewi o ddiffyg dŵr,

ac yn trengi o sychder.

3Rwy'n gwisgo'r nefoedd â galarwisg,

ac yn rhoi sachliain yn amdo iddynt.”

4Rhoes yr ARGLWYDD Dduw i mi dafod un yn dysgu,

i wybod sut i gynnal y diffygiol â gair;

bob bore y mae'n agor fy nghlust

i wrando fel un yn dysgu.

5Agorodd yr ARGLWYDD Dduw fy nghlust,

ac ni wrthwynebais innau, na chilio'n ôl.

6Rhoddais fy nghefn i'r curwyr,

a'm cernau i'r rhai a dynnai'r farf;

ni chuddiais fy wyneb rhag gwaradwydd na phoer.

7Y mae'r Arglwydd DDUW yn fy nghynnal,

am hynny ni chaf fy sarhau;

felly gosodaf fy wyneb fel callestr,

a gwn na'm cywilyddir.

8Y mae'r hwn sy'n fy nghyfiawnhau wrth law.

Pwy a ddadlau i'm herbyn? Gadewch i ni wynebu'n gilydd;

pwy a'm gwrthwyneba? Gadewch iddo nesáu ataf.

9Y mae'r Arglwydd DDUW yn fy nghynnal:

pwy a'm condemnia?

Byddant i gyd yn treulio fel dilledyn

a ysir gan wyfyn.

10Pwy bynnag ohonoch sy'n ofni'r ARGLWYDD,

gwrandawed ar lais ei was.

Yr un sy'n rhodio mewn tywyllwch heb olau ganddo,

ymddirieded yn enw'r ARGLWYDD,

a phwyso ar ei Dduw.

11Ond chwi i gyd, sy'n cynnau tân

ac yn goleuo tewynion,

rhodiwch wrth lewyrch eich tân,

a'r tewynion a oleuwyd gennych.

Dyma'r hyn a ddaw i chwi o'm llaw:

byddwch yn gorwedd mewn dioddefaint.