Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseia 19

Yn Erbyn yr Aifft

1Yr oracl am yr Aifft:

Wele'r ARGLWYDD yn marchogaeth ar gwmwl buan,

ac yn dod i'r Aifft;

bydd eilunod yr Aifft yn crynu o'i flaen,

a chalon yr Eifftiaid yn toddi o'u mewn.

2“Gyrraf Eifftiwr yn erbyn Eifftiwr;

ymladd brawd yn erbyn brawd,

a chymydog yn erbyn cymydog,

dinas yn erbyn dinas,

a theyrnas yn erbyn teyrnas.

3Palla ysbryd yr Eifftiaid o'u mewn,

a drysaf eu cynlluniau;

ânt i ymofyn â'u heilunod a'u swynwyr,

â'u dewiniaid a'u dynion hysbys.

4Trosglwyddaf yr Aifft i feistr caled,

a theyrnasa brenin creulon arnynt,”

medd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd.

5Sychir dyfroedd y Neil,

bydd yr afon yn hesb a sych,

6y ffosydd yn drewi,

ffrydiau y Neil yn edwino gan sychder,

a'r brwyn a'r helyg yn gwywo;

7bydd lleiniau o dir moel wrth y Neil,

a bydd popeth a heuir gyda glan yr afon

yn crino ac yn diflannu'n llwyr.

8Bydd y pysgotwyr yn tristáu ac yn cwynfan,

pob un sy'n taflu bach yn y Neil;

bydd y rhai sy'n bwrw rhwydi ar y dyfroedd yn dihoeni.

9Bydd gweithwyr llin mewn trallod,

a'r cribwragedd a'r gwehyddion yn gwelwi.

10Bydd y rhai sy'n nyddu yn benisel

a phob crefftwr yn torri ei galon.

11O'r fath ffyliaid, chwi dywysogion Soan,

y doethion sy'n cynghori Pharo â chyngor hurt!

Sut y gallwch ddweud wrth Pharo, “Mab y doethion wyf fi,

o hil yr hen frenhinoedd”?

12Ble mae dy ddoethion?

Bydded iddynt lefaru'n awr, a'th ddysgu

beth a fwriadodd ARGLWYDD y Lluoedd ynglŷn â'r Aifft.

13Gwnaed tywysogion Soan yn ffyliaid,

a thwyllwyd tywysogion Noff;

aeth penaethiaid ei llwythau â'r Aifft ar gyfeiliorn.

14Cynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd drygioni o'i mewn,

a gwneud i'r Aifft gyfeiliorni ym mhopeth a wna,

fel y bydd meddwyn yn ymdroi yn ei gyfog.

15Ni bydd dim y gellir ei wneud i'r Aifft gan neb,

na phen na chynffon, na changen na brwynen.

16Yn y dydd hwnnw bydd yr Eifftiaid fel gwragedd yn crynu gan ofn o flaen y llaw y bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn ei hysgwyd yn eu herbyn. 17Bydd tir Jwda yn arswyd i'r Aifft, a phob sôn amdano yn codi ofn arni, oherwydd y cynllun a fwriadodd ARGLWYDD y Lluoedd yn ei herbyn.

18Yn y dydd hwnnw bydd pump o ddinasoedd yr Aifft yn siarad iaith Canaan, ac yn tyngu llw o ffyddlondeb i ARGLWYDD y Lluoedd. Enw un ohonynt fydd Dinas yr Haul.

Notes for verse 181 entry

Text notes

19Yn y dydd hwnnw bydd allor i'r ARGLWYDD yng nghanol yr Aifft, a cholofn i'r ARGLWYDD ar ei goror. 20Bydd yn arwydd ac yn dystiolaeth i ARGLWYDD y Lluoedd yng ngwlad yr Aifft; pan lefant ar yr ARGLWYDD oherwydd eu gorthrymwyr, bydd yntau yn anfon gwaredydd iddynt i'w hamddiffyn a'u hachub. 21Bydd yr ARGLWYDD yn ei wneud ei hun yn adnabyddus i'r Eifftiaid, a byddant hwythau'n cydnabod yr ARGLWYDD yn y dydd hwnnw, ac yn ei addoli ag aberth a bwydoffrwm, ac yn addunedu i'r ARGLWYDD ac yn talu eu haddunedau iddo. 22Bydd yr ARGLWYDD yn taro'r Aifft, yn ei tharo ac yn ei gwella; pan ddychwelant at yr ARGLWYDD bydd yntau'n gwrando arnynt ac yn eu hiacháu. 23Yn y dydd hwnnw bydd priffordd o'r Aifft i Asyria; fe â'r Asyriaid i'r Aifft a'r Eifftiaid i Asyria, a bydd yr Eifftiaid yn addoli gyda'r Asyriaid.

Notes for verses 19–231 entry

Text notes

24Yn y dydd hwnnw bydd Israel yn un o dri, gyda'r Aifft ac Asyria, ac yn gyfrwng bendith yng nghanol y byd. 25Bendith ARGLWYDD y Lluoedd fydd, “Bendith ar yr Aifft, fy mhobl, ac ar Asyria, gwaith fy nwylo, ac ar Israel, f'etifeddiaeth.”