information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseciel 32

Galarnad am Pharo

1Ar y dydd cyntaf o'r deuddegfed mis yn y ddeuddegfed flwyddyn, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud;

2“Fab dyn, cod alarnad am Pharo brenin yr Aifft, a dywed wrtho,

‘Yr wyt fel llew ymysg y cenhedloedd.

Yr wyt fel draig yn y moroedd,

yn ymdroelli yn d'afonydd,

yn corddi dŵr â'th draed,

ac yn maeddu ei ffrydiau.

3“ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:

 thyrfa fawr o bobl fe daflaf fy rhwyd drosot,

ac fe'th godant i fyny ynddi.

4Fe'th luchiaf ar y ddaear,

a'th daflu ar y maes agored,

a gwneud i holl adar y nefoedd ddisgyn arnat,

a diwallu'r holl anifeiliaid gwylltion ohonot.

5Gwasgaraf dy gnawd ar y mynyddoedd,

a llenwi'r dyffrynnoedd â'th weddillion.

6Mwydaf y ddaear hyd at y mynyddoedd

â'r gwaed fydd yn llifo ohonot,

a bydd y cilfachau yn llawn ohono.

7Pan ddiffoddaf di, gorchuddiaf y nefoedd

a thywyllu ei sêr;

cuddiaf yr haul â chwmwl,

ac ni rydd y lloer ei goleuni.

8Tywyllaf holl oleuadau disglair y nefoedd uwch dy ben,

ac fe'i gwnaf yn dywyll dros dy dir,’ medd yr Arglwydd DDUW.

Notes for verses 3–81 entry

Text notes

9“ ‘Gofidiaf galon llawer o bobl pan af â thi i gaethglud ymysg y cenhedloedd, i wledydd nad wyt yn eu hadnabod. 10Gwnaf i lawer o bobl frawychu o'th achos, a bydd eu brenhinoedd yn crynu mewn braw o'th blegid pan ysgydwaf fy nghleddyf o'u blaenau; byddant yn ofni am eu heinioes bob munud ar ddydd dy gwymp. 11Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:

Notes for verses 9–111 entry

Text notes

Daw cleddyf brenin Babilon yn dy erbyn.

12Gwnaf i'th finteioedd syrthio trwy gleddyfau'r rhai cryfion,

y greulonaf o'r holl genhedloedd.

Dymchwelant falchder yr Aifft,

ac fe ddifethir ei holl finteioedd.

13Dinistriaf ei holl wartheg o ymyl y dyfroedd;

ni fydd traed dynol yn eu corddi mwyach,

na charnau anifeiliaid yn eu maeddu.

14Yna gwnaf eu dyfroedd yn groyw,

a bydd eu hafonydd yn llifo fel olew,’ medd yr Arglwydd DDUW.

15‘Pan wnaf wlad yr Aifft yn anrhaith,

a dinoethi'r wlad o'r hyn sydd ynddi;

pan drawaf i lawr bawb sy'n byw ynddi,

yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

16Dyma'r alarnad a lafargenir amdani; merched y cenhedloedd fydd yn ei chanu, ac am yr Aifft a'i holl finteioedd y canant hi,’ medd yr Arglwydd DDUW.”

Gyda'r Meirw yn y Pwll

17Ar y pymthegfed dydd o'r mis cyntaf yn y ddeuddegfed flwyddyn, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 18“Fab dyn, galara am finteioedd yr Aifft, a bwrw hi i lawr, hi a merched y cenhedloedd cryfion, i'r tir isod gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll.

Notes for verses 17–181 entry

Text notes

19‘A gei di ffafr rhagor nag eraill?

Dos i lawr, a gorwedd gyda'r dienwaededig.

20Syrthiant gyda'r rhai a leddir â'r cleddyf;

tynnwyd y cleddyf, llusgir hi a'i minteioedd ymaith.

21O ganol Sheol fe ddywed y cryfion amdani hi a'i chynorthwywyr,

“Daethant i lawr a gorwedd gyda'r dienwaededig a laddwyd â'r cleddyf.”

22Y mae Asyria a'i holl luoedd yno,

ac o'i hamgylch feddau'r lladdedigion,

yr holl rai a laddwyd â'r cleddyf.

23Y mae eu beddau yn nyfnder y pwll,

ac y mae ei holl lu o amgylch ei bedd;

y mae'r holl rai a fu'n achosi braw yn nhir y byw

wedi syrthio trwy'r cleddyf.

24Y mae Elam a'i holl luoedd o amgylch ei bedd,

i gyd wedi eu lladd a syrthio trwy'r cleddyf;

y mae'r holl rai a fu'n achosi braw yn nhir y byw

i lawr yn y tir isod gyda'r dienwaededig,

ac yn dwyn eu gwarth gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll.

25Gwnaed gwely iddi ymysg y lladdedigion,

gyda'i holl luoedd o amgylch ei bedd;

y maent i gyd yn ddienwaededig, wedi eu lladd â'r cleddyf.

Am iddynt achosi braw yn nhir y byw,

y maent yn dwyn eu gwarth gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll,

ac yn gorwedd ymysg y lladdedigion.

26Y mae Mesech a Tubal yno, a'u holl luoedd o amgylch eu beddau,

y maent i gyd yn ddienwaededig, wedi eu lladd â'r cleddyf,

am iddynt achosi braw yn nhir y byw.

27Onid ydynt yn gorwedd gyda'r rhyfelwyr a syrthiodd yn ddienwaededig,

a mynd i lawr i Sheol gyda'u harfau rhyfel,

a rhoi eu harfau dan eu pennau?

Daeth cosb eu troseddau ar eu hesgyrn,

oherwydd bod braw ar y cryfion hyn trwy dir y byw.

28Byddi dithau hefyd ymysg y dienwaededig, wedi dy ddryllio ac yn gorwedd gyda'r rhai a laddwyd â'r cleddyf. 29Y mae Edom gyda'i brenhinoedd a'i holl dywysogion yno; er eu grym y maent gyda'r rhai a laddwyd â'r cleddyf, yn gorwedd gyda'r dienwaededig, gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll. 30Y mae holl dywysogion y gogledd a'r holl Sidoniaid yno; aethant i lawr mewn gwarth gyda'r lladdedigion, er gwaetha'r braw a achosodd eu cryfder; y maent yn gorwedd yn ddienwaededig gyda'r rhai a laddwyd â'r cleddyf, ac yn dwyn eu gwarth gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll. 31Pan fydd Pharo yn eu gweld bydd yn ymgysuro am ei holl finteioedd—Pharo a'i holl lu, a laddwyd â'r cleddyf,’ medd yr Arglwydd DDUW. 32‘Oherwydd achosodd fraw trwy holl dir y byw, ac fe'i rhoir i orwedd, ef a'i holl finteioedd, ymysg y dienwaededig a laddwyd â'r cleddyf,’ medd yr Arglwydd DDUW.”

Notes for verses 28–321 entry

Text notes