information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseciel 21

Cleddyf o'r Wain yn erbyn Israel

1Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 2“Fab dyn, tro dy wyneb tua Jerwsalem, a llefara yn erbyn ei chysegr a phroffwyda yn erbyn tir Israel. 3Dywed wrth dir Israel, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Yr wyf fi yn dy erbyn; tynnaf fy nghleddyf o'i wain a thorri ymaith ohonot y cyfiawn a'r drygionus. 4Oherwydd fy mod am dorri ymaith ohonot y cyfiawn a'r drygionus y tynnir fy nghleddyf o'i wain yn erbyn pawb o'r de i'r gogledd. 5Yna bydd pob un yn gwybod fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi tynnu fy nghleddyf o'i wain; ni fydd yn dychwelyd yno byth eto.’ 6Ac yn awr, fab dyn, griddfan; griddfan yn chwerw o'u blaenau â chalon ddrylliedig. 7A phan ofynnant iti pam dy fod yn griddfan, fe ddywedi, ‘Oherwydd y newyddion; pan ddaw, bydd pob calon yn toddi, pob llaw yn llipa, pob ysbryd yn pallu a phob glin yn ddŵr. Fe ddigwydd, ac y mae ar ddyfod, medd yr Arglwydd DDUW.’ ”

Notes for verses 1–72 entries

Text notes

8Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 9“Fab dyn, proffwyda a dweud, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:

Cleddyf! Cleddyf wedi ei hogi,

a hefyd wedi ei loywi—

10wedi ei hogi er mwyn lladd,

a'i loywi i fflachio fel mellten!

O fy mab, fe chwifir gwialen

i ddilorni pob eilun pren!

11Rhoddwyd y cleddyf i'w loywi,

yn barod i law ymaflyd ynddo;

y mae'r cleddyf wedi ei hogi a'i loywi,

yn barod i'w roi yn llaw y lladdwr.’

12Gwaedda ac uda, fab dyn,

oherwydd y mae yn erbyn fy mhobl,

yn erbyn holl dywysogion Israel—

fe'u bwrir hwythau i'r cleddyf gyda'm pobl;

felly trawa dy glun.

Notes for verses 9–121 entry

Text notes

13Oherwydd bydd profi. Pam yr ydych yn dilorni'r wialen? Ni lwydda, medd yr Arglwydd DDUW.

14“Ac yn awr, fab dyn, proffwyda,

a thrawa dy ddwylo yn erbyn ei gilydd;

chwifier y cleddyf ddwywaith a thair—

cleddyf i ladd ydyw,

cleddyf i wneud lladdfa fawr,

ac y mae'n chwyrlïo o'u hamgylch.

15Er mwyn i'w calon doddi,

ac i lawer ohonynt syrthio,

yr wyf wedi gosod cleddyf dinistr

wrth eu holl byrth.

Och! Fe'i gwnaed i ddisgleirio fel mellten,

ac fe'i tynnir i ladd.

16Tro'n finiog i'r dde ac i'r chwith,

i ble bynnag y pwyntia dy flaen.

17Byddaf finnau hefyd yn taro fy nwylo,

ac yna'n tawelu fy llid.

Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd.”

Notes for verses 14–171 entry

Text notes

18Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 19“Yn awr, fab dyn, noda ddwy ffordd i gleddyf brenin Babilon ddod, a'r ddwy yn arwain o'r un wlad, a gosod fynegbost ar ben y ffordd sy'n dod i'r ddinas. 20Noda un ffordd i'r cleddyf ddod yn erbyn Rabba'r Ammoniaid, a'r llall yn erbyn Jwda a Jerwsalem gaerog. 21Oherwydd fe oeda brenin Babilon ar y groesffordd lle mae'r ddwy ffordd yn fforchi, i geisio argoel; bydd yn bwrw coelbren â saethau, yn ymofyn â'i eilunod ac yn edrych ar yr afu. 22Yn ei law dde bydd coelbren Jerwsalem, iddo roi gorchymyn i ladd, codi bonllef rhyfel, gosod peiriannau hyrddio yn erbyn y pyrth, codi esgynfa ac adeiladu gwarchglawdd. 23Bydd yn ymddangos yn argoel twyllodrus i'r rhai sy'n deyrngar iddo, ond bydd ef yn dwyn eu trosedd i gof ac yn eu caethiwo. 24Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd ichwi ddwyn eich trosedd i gof trwy eich gwrthryfel agored, ac amlygu eich pechodau yn y cyfan a wnewch, oherwydd i chwi wneud hyn, fe'ch caethiwir.

Notes for verses 18–241 entry

Text notes

  • Ezekiel 21:22 Hebraeg yn ychwanegu osod peiriannau hyrddio. View in passage

25“A thithau, dywysog annuwiol a drygionus Israel, yr un y daeth ei ddydd yn amser y gosb derfynol, 26fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Diosg y benwisg a thyn y goron; nid fel y bu y bydd; dyrchefir yr isel a darostyngir yr uchel. 27Adfail! Adfail! Yn adfail na fu ei bath y gwnaf hi, nes i'r hwn a'i piau trwy deg ddod, ac imi ei rhoi iddo ef.

Cleddyf yn erbyn Ammon

28“Yn awr, fab dyn, proffwyda a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth yr Ammoniaid a'u heilun: Cleddyf! Cleddyf wedi ei dynnu i ladd, wedi ei loywi i ddifa ac i ddisgleirio fel mellten! 29Er bod gweledigaethau gau amdanat ac argoelion twyllodrus ynglŷn â thi, fe'th osodir ar yddfau'r drygionus sydd i'w lladd, sef y rhai y daeth eu dydd yn amser y gosb derfynol. 30Yna, dychweler ef i'w wain. Yn y lle y crëwyd di, yng ngwlad dy gynefin, y barnaf di. 31Tywalltaf fy llid arnat a chwythu fy nig tanllyd drosot; rhoddaf di yn nwylo dynion creulon, dynion medrus i ddinistrio. 32Byddi'n gynnud i dân, bydd dy waed trwy'r tir, ac ni chofir amdanat. Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd.’ ”

Notes for verses 28–321 entry

Text notes