information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseciel 19

Galarnad am Dywysogion

1“Gwna alarnad am dywysogion Israel, 2a dywed:

‘Y fath lewes oedd dy fam

ymhlith y llewod!

Gorweddodd ymysg y llewod ifainc

a magu ei chenawon.

3Meithrinodd un o'i chenawon,

a thyfodd yn llew ifanc;

dysgodd larpio ysglyfaeth

a bwyta pobl.

4Clywodd y cenhedloedd amdano,

ac fe'i daliwyd yn eu pwll;

aethant ag ef â bachau

i wlad yr Aifft.

5Pan welodd hi ei siomi

a dinistrio ei gobaith,

cymerodd un arall o'i chenawon

a gwneud llew ifanc ohono.

6Yr oedd yn prowla ymhlith y llewod,

a thyfodd yn llew ifanc;

dysgodd larpio ysglyfaeth

a bwyta pobl.

7Tynnodd i lawr eu ceyrydd,

a dinistrio eu dinasoedd;

daeth ofn ar y wlad a phopeth ynddi

oherwydd sŵn ei ruo.

8Yna daeth y cenhedloedd yn ei erbyn

o'r taleithiau o amgylch;

taenasant eu rhwyd drosto,

ac fe'i daliwyd yn eu pwll.

9Tynasant ef i gawell â bachau,

a mynd ag ef at frenin Babilon;

rhoddwyd ef mewn carchar,

fel na chlywyd ei sŵn mwyach

ar fynyddoedd Israel.

Notes for verses 2–92 entries

Text notes

10“ ‘Yr oedd dy fam fel gwinwydden mewn gwinllan,

wedi ei phlannu yn ymyl dyfroedd;

yr oedd yn ffrwythlon a brigog

am fod digon o ddŵr.

11Yr oedd ei changhennau yn gryfion,

yn addas i deyrnwialen llywodraethwyr.

Tyfodd yn uchel iawn,

uwchlaw'r prysgwydd;

yr oedd yn amlwg oherwydd ei huchder

a nifer ei changau.

12Ond fe'i diwreiddiwyd mewn dicter,

fe'i bwriwyd hi i'r llawr;

deifiodd gwynt y dwyrain hi,

dinoethwyd hi o'i ffrwythau;

gwywodd ei changau cryfion,

ac yswyd hwy gan dân.

13Yn awr, y mae wedi ei thrawsblannu mewn diffeithwch,

mewn tir cras a sychedig.

14Lledodd tân o un o'i changhennau

ac ysu ei blagur;

ni adawyd arni yr un gangen gref,

yn addas i deyrnwialen llywodraethwr.’

Notes for verses 10–142 entries

Text notes

Galarnad yw hon, ac y mae i'w defnyddio'n alarnad.”