information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Exodus 27

Yr Allor

Ex. 38:1–7

1“Gwna allor sgwâr o goed acasia, pum cufydd o hyd a phum cufydd o led a thri chufydd o uchder. 2Gwna gyrn yn rhan o'r allor yn ei phedair congl, a rho haen o bres drosti. 3Gwna ar ei chyfer lestri i dderbyn y lludw, a rhawiau, cawgiau, ffyrch a phedyll tân, pob un ohonynt o bres. 4Gwna hefyd ar ei chyfer rwyll o rwydwaith pres, a phedwar bach pres ar bedair congl y rhwydwaith. 5Gosod hi dan ymyl yr allor fel bod y rhwydwaith yn ymestyn at hanner yr allor. 6Gwna hefyd ar gyfer yr allor bolion o goed acasia, a rho haen o bres drostynt. 7Rhoir y polion drwy'r bachau ar ochrau'r allor i'w chludo. 8Gwna'r allor ag astellau, yn wag oddi mewn. Gwna hi fel y dangoswyd iti ar y mynydd.

Cyntedd y Tabernacl

Ex. 38:9–10

9“Gwna gyntedd ar gyfer y tabernacl. Ar un ochr, yr ochr ddeheuol i'r cyntedd, bydd llenni o liain main wedi ei nyddu, can cufydd o hyd; 10bydd ugain colofn ac ugain troed o bres, ond bydd bachau a chylchau'r colofnau o arian. 11Yr un modd, bydd ar yr ochr ogleddol lenni can cufydd o hyd, ag ugain colofn ac ugain troed o bres, ond bydd bachau a chylchau'r colofnau o arian. 12Ar draws y cyntedd, ar yr ochr orllewinol, bydd llenni hanner can cufydd o hyd, â deg colofn a deg troed. 13Ar yr ochr ddwyreiniol, tua chodiad haul, bydd lled y cyntedd yn hanner can cufydd. 14Bydd y llenni ar y naill ochr i'r porth yn bymtheg cufydd, â thair colofn a thri throed, 15a'r llenni ar yr ochr arall hefyd yn bymtheg cufydd, â thair colofn a thri throed. 16Ym mhorth y cyntedd bydd llen ugain cufydd o hyd, o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu a'i frodio; bydd iddi bedair colofn a phedwar troed. 17Bydd cylchau arian ar yr holl golofnau o amgylch y cyntedd, a bydd eu bachau o aur a'u traed o bres. 18Bydd y cyntedd yn gan cufydd o hyd a hanner can cufydd o led a phum cufydd o uchder, â llenni o liain main wedi ei nyddu, a thraed o bres. 19Pres hefyd fydd pob un o'r llestri ar gyfer holl wasanaeth y tabernacl, a phob un o'r hoelion a fydd yn y tabernacl a'r cyntedd.

Gofal y Lamp

Lef. 24:1–4

20“Gorchymyn i bobl Israel ddod ag olew pur wedi ei wasgu o'r olifiau ar gyfer y lamp, er mwyn iddi losgi'n ddi-baid. 21Bydd Aaron a'i feibion yn cadw golwg ar y lamp o'r hwyr hyd y bore gerbron yr ARGLWYDD ym mhabell y cyfarfod y tu allan i'r gorchudd sydd o flaen y dystiolaeth. Bydd yn ddeddf i'w chadw am byth gan bobl Israel dros y cenedlaethau.