information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Exodus 17

Dŵr o'r Graig

Num. 20:1–13

1Aeth holl gynulliad pobl Israel ymaith o anialwch Sin a symud o le i le fel yr oedd yr ARGLWYDD yn gorchymyn, a gwersyllu yn Reffidim; ond nid oedd yno ddŵr i'w yfed. 2Felly dechreuodd y bobl ymryson â Moses, a dweud, “Rho inni ddŵr i'w yfed.” Ond dywedodd Moses wrthynt, “Pam yr ydych yn ymryson â mi ac yn herio'r ARGLWYDD?” 3Yr oedd y bobl yn sychedu yno am ddŵr, a dechreuasant rwgnach yn erbyn Moses, a dweud, “Pam y daethost â ni i fyny o'r Aifft? Ai er mwyn ein lladd ni a'n plant a'n hanifeiliaid â syched?” 4Felly galwodd Moses ar yr ARGLWYDD a dweud, “Beth a wnaf â'r bobl hyn? Y maent bron â'm llabyddio!” 5Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Cerdda o flaen y bobl gyda rhai o henuriaid Israel, a chymer yn dy law y wialen y trewaist y Neil â hi, a dos ymlaen. 6Pan weli fi'n sefyll o'th flaen ar graig yn Horeb, taro'r graig, a daw dŵr allan ohoni, a chaiff y bobl yfed.” Gwnaeth Moses hyn ym mhresenoldeb henuriaid Israel. 7Galwodd enw'r lle yn Massa a Meriba, oherwydd ymryson yr Israeliaid ac am iddynt herio'r ARGLWYDD trwy ofyn, “A yw'r ARGLWYDD yn ein plith, ai nac ydyw?”

Notes for verses 1–73 entries

Text notes

Rhyfel yn erbyn Amalec

8Pan ddaeth Amalec i ymladd yn erbyn Israel yn Reffidim, 9dywedodd Moses wrth Josua, “Dewis dy wŷr, a dos ymaith i ymladd yn erbyn Amalec; yfory, fe gymeraf finnau fy lle ar ben y bryn, â gwialen Duw yn fy llaw.” 10Gwnaeth Josua fel yr oedd Moses wedi dweud wrtho, ac ymladdodd yn erbyn Amalec; yna aeth Moses, Aaron a Hur i fyny i ben y bryn. 11Pan godai Moses ei law, byddai Israel yn trechu; a phan ostyngai ei law, byddai Amalec yn trechu. 12Pan aeth ei ddwylo'n flinedig, cymerwyd carreg a'i gosod dano, ac eisteddodd Moses arni, gydag Aaron ar y naill ochr iddo a Hur ar y llall, yn cynnal ei ddwylo, fel eu bod yn gadarn hyd fachlud haul. 13Felly, gorchfygodd Josua Amalec a'i bobl â min y cleddyf.

14Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Ysgrifenna hyn mewn llyfr yn goffadwriaeth, a mynega'r peth yng nghlyw Josua, sef fy mod am ddileu yn llwyr oddi tan y nefoedd bob atgof am Amalec.” 15Yna adeiladodd Moses allor a'i henwi'n Jehofa-nissi, 16a dweud, “Llaw ar faner yr ARGLWYDD! Bydd rhyfel rhwng yr ARGLWYDD ac Amalec o genhedlaeth i genhedlaeth.”

Notes for verses 14–162 entries

Text notes