information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Exodus 15

Cân Moses

1Yna canodd Moses a'r Israeliaid y gân hon i'r ARGLWYDD:

“Canaf i'r ARGLWYDD am iddo weithredu'n fuddugoliaethus;

bwriodd y ceffyl a'i farchog i'r môr.

2Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm cân,

ac ef yw'r un a'm hachubodd;

ef yw fy Nuw, ac fe'i gogoneddaf,

Duw fy nhad, ac fe'i dyrchafaf.

3Y mae'r ARGLWYDD yn rhyfelwr;

yr ARGLWYDD yw ei enw.

4Taflodd gerbydau Pharo a'i fyddin i'r môr,

a boddwyd ei gapteiniaid dethol yn y Môr Coch.

5Daeth llifogydd i'w gorchuddio,

a disgynasant i'r dyfnderoedd fel carreg.

6Y mae nerth dy ddeheulaw, O ARGLWYDD, yn ogoneddus;

dy ddeheulaw, O ARGLWYDD, a ddryllia'r gelyn.

7Trwy dy fawrhydi aruchel darostyngaist dy wrthwynebwyr;

gollyngaist dy ddigofaint, ac fe'u difaodd hwy fel sofl.

8Trwy chwythiad dy ffroenau casglwyd y dyfroedd ynghyd;

safodd y ffrydiau yn bentwr,

a cheulodd y dyfnderoedd yng nghanol y môr.

9Dywedodd y gelyn, ‘Byddaf yn erlid ac yn goddiweddyd;

rhannaf yr ysbail, a chaf fy nigoni ganddo;

tynnaf fy nghleddyf, a'u dinistrio â'm llaw.’

10Ond pan chwythaist ti â'th anadl, gorchuddiodd y môr hwy,

nes iddynt suddo fel plwm i'r dyfroedd mawrion.

11Pwy ymhlith y duwiau sy'n debyg i ti, O ARGLWYDD?

Pwy sydd fel tydi, yn ogoneddus ei sancteiddrwydd,

yn teilyngu parch a mawl, ac yn gwneud rhyfeddodau?

12Pan estynnaist dy ddeheulaw,

llyncodd y ddaear hwy.

13“Yn dy drugaredd, arweini'r bobl a waredaist,

a thrwy dy nerth eu tywys i'th drigfan sanctaidd.

14Fe glyw y bobloedd, a dychryn,

a daw gwewyr ar drigolion Philistia.

15Bydd penaethiaid Edom yn brawychu,

ac arweinwyr Moab yn arswydo,

a holl drigolion Canaan yn toddi.

16Daw ofn a braw arnynt;

oherwydd mawredd dy fraich byddant mor llonydd â charreg,

nes i'th bobl di, O ARGLWYDD, fynd heibio,

nes i'r bobl a brynaist ti fynd heibio.

17Fe'u dygi i mewn a'u plannu ar y mynydd sy'n eiddo i ti,

y man, O ARGLWYDD, a wnei yn drigfan i ti dy hun,

y cysegr, O ARGLWYDD, a godi â'th ddwylo.

18Bydd yr ARGLWYDD yn teyrnasu byth bythoedd.”

Cân Miriam

19Pan aeth meirch Pharo a'i gerbydau a'i farchogion i mewn i'r môr, gwnaeth yr ARGLWYDD i ddyfroedd y môr ddychwelyd drostynt; ond cerddodd yr Israeliaid trwy ganol y môr ar dir sych. 20Yna cymerodd Miriam y broffwydes, chwaer Aaron, dympan yn ei llaw, ac aeth yr holl wragedd allan ar ei hôl a dawnsio gyda thympanau. 21Canodd Miriam gân iddynt:

“Canwch i'r ARGLWYDD am iddo weithredu'n fuddugoliaethus;

bwriodd y ceffyl a'i farchog i'r môr.”

Iacháu'r Dŵr Chwerw

22Yna arweiniodd Moses yr Israeliaid oddi wrth y Môr Coch, ac aethant ymaith i anialwch Sur; buont yn teithio'r anialwch am dridiau heb gael dŵr. 23Pan ddaethant i Mara, ni allent yfed y dŵr yno am ei fod yn chwerw; dyna pam y galwyd y lle yn Mara. 24Dechreuodd y bobl rwgnach yn erbyn Moses, a gofyn, “Beth ydym i'w yfed?” 25Galwodd yntau ar yr ARGLWYDD, a dangosodd yr ARGLWYDD iddo bren; pan daflodd Moses y pren i'r dŵr, trodd y dŵr yn felys.

Notes for verses 22–251 entry

Text notes

Yno y sefydlodd yr ARGLWYDD ddeddf a chyfraith, ac yno hefyd y profodd hwy, 26a dweud, “Os gwrandewi'n astud ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, a gwneud yr hyn sy'n iawn yn ei olwg, gan wrando ar ei orchmynion a chadw ei holl ddeddfau, ni rof arnat yr un o'r clefydau a rois ar yr Eifftiaid; oherwydd myfi yw'r ARGLWYDD, sy'n dy iacháu.”

27Yna daethant i Elim, lle'r oedd deuddeg ffynnon ddŵr, a deg a thrigain o balmwydd; a buont yn gwersyllu yno wrth y dŵr.