information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

2 Samuel 23

Geiriau Olaf Dafydd

1Dyma eiriau olaf Dafydd:

“Oracl Dafydd fab Jesse,

ie, oracl y gŵr a godwyd yn uchel,

eneiniog Duw Jacob,

canwr caneuon Israel.

Notes for verse 11 entry

Text notes

2“Ysbryd yr ARGLWYDD a lefarodd drwof,

a'i air ef oedd ar fy nhafod.

3Llefarodd Duw Jacob,

dywedodd craig Israel wrthyf:

‘Y mae'r sawl sy'n llywodraethu pobl yn gyfiawn,

yn llywodraethu yn ofn Duw,

4fel goleuni bore pan gyfyd haul

ar fore digwmwl,

a pheri i'r gwellt ddisgleirio o'r ddaear

ar ôl glaw.’

Notes for verses 2–41 entry

Text notes

5“Yn sicr, onid felly y mae fy nheulu gyda Duw?

Oherwydd gwnaeth gyfamod tragwyddol â mi,

un trefnus ym mhob cymal, a diogel.

Ef yw fy nghymorth i gyd a'm dymuniad;

oni rydd lwyddiant i mi?

6‘Y mae'r dihirod i gyd fel drain a dorrir i lawr,

am na ellir eu casglu â llaw.

7Nid oes neb yn eu cyffwrdd

ond â haearn neu goes gwaywffon,

a'u llosgi'n llwyr yn y man lle maent.’ ”

Milwyr Enwog Dafydd

1 Cron. 11:10–41

8Dyma enwau'r gwroniaid oedd gan Ddafydd: Isbaal yr Hachmoniad oedd pen y Tri; chwifiodd ei waywffon mewn buddugoliaeth uwchben wyth gant o laddedigion ar un tro. 9Y nesaf ato ef ymysg y Tri Gwron oedd Eleasar fab Dodo, fab Ahohi; yr oedd ef gyda Dafydd yn herio'r Philistiaid pan ddaethant ynghyd i ryfel, a'r Israeliaid yn cilio o'u blaenau. 10Safodd ei dir ac ymladd â'r Philistiaid nes i'w law ddiffygio a glynu yn ei gleddyf. Rhoes yr ARGLWYDD waredigaeth fawr y diwrnod hwnnw, a daeth y bobl yn ôl at Eleasar, ond i ysbeilio'r cyrff yn unig. 11Y nesaf at hwnnw oedd Samma fab Age yr Harariad. Pan ddaeth y Philistiaid ynghyd yn Lehi, lle'r oedd rhandir yn llawn ffacbys, ffodd y bobl rhag y Philistiaid; 12ond safodd Samma ei dir yng nghanol y llain a'i hachub, a lladd y Philistiaid; a rhoes yr ARGLWYDD waredigaeth fawr.

Notes for verses 8–122 entries

Text notes

  • 2 Samuel 23:8 Tebygol. Cymh. Groeg ac 1 Cron. 11:11. Hebraeg, Joseb Bassebeth y Tachmoniad. View in passage

  • 2 Samuel 23:8 Tebygol. Cymh. adn. 18 ac 1 Cron. 11:11. Hebraeg yn aneglur. View in passage

13Aeth tri o'r Deg ar Hugain i lawr at Ddafydd i ogof Adulam, a chyrraedd adeg y cynhaeaf, pan oedd mintai o Philistiaid wedi gwersyllu yn nyffryn Reffaim. 14Yr oedd Dafydd ar y pryd yn yr amddiffynfa, a garsiwn y Philistiaid ym Methlehem. 15Cododd blys ar Ddafydd ac meddai, “O na chawn ddiod o ddŵr o bydew Bethlehem sydd ger y porth!” 16Ar hynny rhuthrodd y Tri Gwron trwy wersyll y Philistiaid, codi dŵr o bydew Bethlehem gerllaw'r porth, a'i gludo'n ôl at Ddafydd. Eto ni fynnai ef ei yfed, a thywalltodd ef yn offrwm i'r ARGLWYDD, 17a dweud, “Na ato'r ARGLWYDD i mi wneud hyn! A allaf fi yfed gwaed gwŷr a fentrodd eu heinioes?” A gwrthododd ei yfed. Dyma wrhydri y Tri Gwron.

18Abisai brawd Joab fab Serfia oedd pennaeth y Deg ar Hugain. Chwifiodd ef ei waywffon mewn buddugoliaeth uwchben trichant o laddedigion; enillodd enw iddo'i hun ymhlith y Deg ar Hugain. 19Ef yn wir oedd yr enwocaf o'r Deg ar Hugain, a bu'n gapten arnynt; ond nid oedd ymysg y Tri.

Notes for verses 18–192 entries

Text notes

  • 2 Samuel 23:18 Felly llawysgrifau a Syrieg. TM, Tri. Felly hefyd ar ddiwedd yr adnod hon. View in passage

  • 2 Samuel 23:19 Tebygol. Hebraeg, Tri. View in passage

20Yr oedd Benaia fab Jehoiada o Cabseel yn ŵr dewr, aml ei orchestion. Ef a laddodd ddau bencampwr Moab; ef hefyd a aeth i lawr i bydew a lladd llew yno ar ddiwrnod o eira. 21Lladdodd gawr o Eifftiwr, er bod gwaywffon yn llaw'r Eifftiwr, ac yntau'n ymosod heb ddim ond ffon. Cipiodd y waywffon o law'r Eifftiwr, a'i ladd â'i waywffon ei hun. 22Dyma wrhydri Benaia fab Jehoiada, ac enillodd enw iddo'i hun ymhlith y Deg Gwron ar Hugain. 23Ef oedd yr enwocaf o'r Deg ar Hugain, ond nid oedd ymysg y Tri. Apwyntiodd Dafydd ef yn bennaeth ei warchodlu.

Notes for verses 20–233 entries

Text notes

24Yr oedd Asahel brawd Joab ymysg y Deg ar Hugain, hefyd Elhanan fab Dodo o Fethlehem, 25Samma yr Harodiad, Elica yr Harodiad, 26Heles y Paltiad, Ira fab Icces y Tecoiad, 27Abieser yr Anathothiad, Mebunnai yr Husathiad, 28Salmon yr Ahohiad, Maharai y Netoffathiad, 29Heleb fab Baana y Netoffathiad, Itai fab Ribai o Gibea meibion Benjamin, 30Benaia y Pirathoniad, Hidai o Nahale-gaas, 31Abialbon yr Arbathiad, Asmafeth y Barhumiad, 32Eliahba y Saalboniad, Jasen y Nuniad, Jonathan fab 33Samma yr Harariad, Ahiam fab Sarar yr Harariad, 34Eliffelet fab Ahasbai, mab y Naachathiad, Eliam fab Ahitoffel y Giloniad, 35Hesrai y Carmeliad, Paarai yr Arbiad, 36Igal fab Nathan o Soba, Bani y Gadiad, 37Selec yr Ammoniad, Naharai y Beerothiad (cludydd arfau Joab fab Serfia), 38Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad, 39Ureia yr Hethiad. Tri deg a saith i gyd.

Notes for verses 24–391 entry

Text notes

  • 2 Samuel 23:32 Tebygol. Cymh. 1 Cron. 11:34 a Groeg. Hebraeg, meibion Jasen Jonathan. View in passage