information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

2 Samuel 15

Absalom yn Cynllwynio Gwrthryfel

1Wedi hyn darparodd Absalom iddo'i hun gerbyd a meirch, a hanner cant o ddynion i redeg o'i flaen. 2Codai'n fore, a sefyll ar ochr y ffordd at borth y ddinas, a phan fyddai unrhyw un yn dod ag achos at y brenin am ddedfryd, byddai Absalom yn ei alw ato ac yn holi, “O ba dref yr wyt ti?” A byddai hwnnw'n ateb, “O un o lwythau Israel y mae dy was.” 3Yna byddai Absalom yn dweud, “Edrych, y mae dy achos yn un da a chryf, ond ni chei wrandawiad gan y brenin.” 4Ac ychwanegai Absalom, “O na fyddwn i yn cael fy ngosod yn farnwr dros y wlad! Yna byddai pob un â chŵyn neu achos ganddo yn dod ataf fi, a byddwn i yn sicrhau cyfiawnder iddo.” 5Pan fyddai unrhyw un yn agosáu i ymgrymu iddo, byddai ef yn estyn ei law, yn gafael ynddo ac yn ei gusanu. 6Fel hyn y byddai Absalom yn ymddwyn tuag at bob Israeliad oedd yn dod at y brenin am ddedfryd, a denodd fryd pobl Israel.

7Wedi pedair blynedd dywedodd Absalom wrth y brenin, “Gad imi fynd i Hebron a thalu'r adduned a wneuthum i'r ARGLWYDD; 8oherwydd pan oeddwn yn byw yn Gesur yn Syria, gwnaeth dy was yr adduned hon, ‘Os byth y daw'r ARGLWYDD â mi yn ôl i Jerwsalem, fe addolaf yr ARGLWYDD.’ ” 9Dywedodd y brenin, “Dos mewn heddwch!” Aeth yntau i ffwrdd i Hebron. 10Yr oedd Absalom wedi anfon negeswyr drwy holl lwythau Israel a dweud wrthynt, “Pan glywch sain yr utgorn, cyhoeddwch, ‘Y mae Absalom wedi dod yn frenin yn Hebron.’ ” 11Aeth deucant o wŷr gydag Absalom o Jerwsalem; yr oeddent wedi eu gwahodd, ac yn mynd yn gwbl ddiniwed, heb wybod dim byd. 12Anfonodd Absalom hefyd am Ahitoffel y Giloniad, cynghorydd Dafydd, i ddod o'i dref, Gilo, i fod gydag ef wrth offrymu'r ebyrth. Yr oedd y cynllwyn yn cynyddu, a'r bobl oedd o blaid Absalom yn dal i amlhau.

Notes for verses 7–121 entry

Text notes

Dafydd yn Ffoi o Jerwsalem

13Daeth rhywun a dweud wrth Ddafydd fod bryd pobl Israel ar Absalom, 14a dywedodd Dafydd wrth ei holl weision oedd gydag ef yn Jerwsalem, “Codwch, inni gael ffoi; onid e, ni fydd modd inni ddianc rhag Absalom; brysiwch oddi yma rhag iddo ef ymosod yn sydyn arnom a pheri niwed inni, a tharo'r ddinas â'r cleddyf.” 15Dywedodd gweision y brenin wrtho, “Beth bynnag yw penderfyniad ein harglwydd frenin, y mae dy weision yn barod.” 16Yna ymadawodd y brenin, a'i deulu i gyd yn ei ganlyn, gan adael deg o'r gordderchwragedd i ofalu am y tŷ. 17Wedi i'r brenin a'r holl fintai oedd yn ei ganlyn fynd allan, safodd ger y tŷ pellaf. 18A safodd ei weision gerllaw iddo, tra oedd y Cerethiaid a'r Pelethiaid i gyd, a'r holl Gethiaid, sef y chwe chant o wŷr oedd wedi dod o Gath i'w ganlyn, yn croesi gerbron y brenin. 19Gofynnodd y brenin i Itai y Gethiad, “Pam yr wyt ti'n dod gyda ni? Dos yn ôl ac aros gyda'r brenin newydd, oherwydd dieithryn wyt ti, ac alltud oddi cartref. 20Ddoe y daethost ti; a wnaf fi iti grwydro heddiw gyda ni ar daith, a minnau heb wybod i ble'r wyf yn mynd? Dos yn ôl, a dos â'th gymrodyr gyda thi; a bydded i'r ARGLWYDD ddangos iti drugaredd a ffyddlondeb.” 21Atebodd Itai a dweud wrth y brenin, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau hefyd, f'arglwydd frenin, ple bynnag yr â f'arglwydd frenin, i farw neu i fyw, yno'n sicr y bydd dy was hefyd.” 22Yna dywedodd Dafydd wrth Itai, “Dos ymlaen, ynteu.” Felly aeth Itai y Gethiad yn ei flaen, a'i holl bobl a'r holl blant oedd gydag ef. 23Yr oedd sŵn wylo mawr trwy'r holl wlad pan oedd y bobl yn croesi. Safodd y brenin wrth nant Cidron nes i'r bobl i gyd fynd drosodd i gyfeiriad yr anialwch.

Notes for verses 13–232 entries

Text notes

24Yr oedd Sadoc yno hefyd, a'r holl Lefiaid oedd gydag ef yn cario arch cyfamod Duw. Wedi iddynt osod arch Duw i lawr, bu Abiathar yn offrymu nes i'r bobl i gyd ymadael â'r ddinas. 25Yna dywedodd y brenin wrth Sadoc, “Dos ag arch Duw yn ôl i'r ddinas; os caf ffafr yng ngolwg yr ARGLWYDD, fe ddaw â mi yn ôl, a gadael imi ei gweld hi a'i chartref. 26Ond os dywed fel hyn, ‘Nid oes arnaf d'eisiau,’ dyma fi; caiff wneud fel y myn â mi.” 27Hefyd dywedodd y brenin wrth Sadoc yr offeiriad, “Edrych, fe elli di ac Abiathar ddychwelyd yn ddiogel i'r ddinas, a'ch dau fab gyda chwi, Ahimaas dy fab di a Jonathan, mab Abiathar. 28Edrychwch, fe oedaf wrth rydau'r anialwch hyd nes y caf air oddi wrthych i'm hysbysu.” 29Felly dygodd Sadoc ac Abiathar arch Duw yn ôl i Jerwsalem, ac aros yno.

Notes for verses 24–292 entries

Text notes

30Dringodd Dafydd lethr Mynydd yr Olewydd dan wylo a chuddio'i ben a cherdded yn droednoeth. Yr oedd yr holl bobl oedd gydag ef hefyd yn dringo gan guddio'u pennau ac wylo. 31Dywedwyd wrth Ddafydd fod Ahitoffel ymysg y cynllwynwyr gydag Absalom, a gweddïodd Dafydd, “O ARGLWYDD, tro gyngor Ahitoffel yn ffolineb.”

32Pan gyrhaeddodd Dafydd y copa, lle byddid yn addoli Duw, dyma Husai yr Arciad yn dod i'w gyfarfod â'i fantell wedi ei rhwygo a phridd ar ei ben. 33Meddai Dafydd wrtho, “Os doi di gyda mi, byddi'n faich arnaf; 34ond os ei di'n ôl i'r ddinas a dweud wrth Absalom, ‘Dy was di wyf fi, f'arglwydd frenin; gwas dy dad oeddwn gynt, ond dy was di wyf yn awr’, yna gelli ddrysu cyngor Ahitoffel drosof. 35Bydd gennyt yr offeiriaid Sadoc ac Abiathar gyda thi yno; yr wyt i ddweud wrthynt hwy bob gair a glywi o dŷ'r brenin, 36oherwydd y mae'r ddau fachgen, Ahimaas fab Sadoc a Jonathan fab Abiathar, yno gyda hwy, ac fe gewch anfon ataf trwyddynt hwy bob dim a glywch.” 37Daeth Husai, cyfaill Dafydd, i'r ddinas fel yr oedd Absalom yn cyrraedd Jerwsalem.

Notes for verses 32–371 entry

Text notes