information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

2 Samuel 1

Dafydd yn Clywed am Farwolaeth Saul

1Ar ôl marwolaeth Saul dychwelodd Dafydd o daro'r Amaleciaid, ac aros ddeuddydd yn Siclag. 2Ar y trydydd dydd cyrhaeddodd dyn o wersyll Saul a'i ddillad wedi eu rhwygo a phridd ar ei ben. Daeth at Ddafydd, syrthiodd o'i flaen a moesymgrymu. 3Gofynnodd Dafydd iddo, “O ble y daethost?” Atebodd yntau, “Wedi dianc o wersyll Israel yr wyf.” 4Dywedodd Dafydd wrtho, “Dywed wrthyf sut y bu pethau.” Adroddodd yntau fel y bu i'r bobl ffoi o'r frwydr, a bod llawer ohonynt wedi syrthio a marw, a bod Saul a'i fab Jonathan hefyd wedi marw. 5Gofynnodd Dafydd i'r llanc oedd yn adrodd yr hanes wrtho, “Sut y gwyddost ti fod Saul a'i fab Jonathan wedi marw?” 6Ac meddai'r llanc oedd yn dweud yr hanes wrtho, “Yr oeddwn yn digwydd bod ar Fynydd Gilboa, a dyna lle'r oedd Saul yn pwyso ar ei waywffon, a'r cerbydau a'r marchogion yn cau amdano. 7Wrth iddo droi fe'm gwelodd i, a galw arnaf. ‘Dyma fi,’ meddwn innau. 8Gofynnodd i mi, ‘Pwy wyt ti?’ Atebais innau, ‘Amaleciad.’ 9Yna dywedodd wrthyf, ‘Tyrd yma a lladd fi, oherwydd y mae gwendid wedi cydio ynof, er bod bywyd yn dal ynof.’ 10Felly euthum ato a'i ladd, oherwydd gwyddwn na fyddai fyw wedi iddo gwympo. Cymerais y goron oedd ar ei ben a'r freichled oedd am ei fraich, a deuthum â hwy yma at f'arglwydd.” 11Gafaelodd Dafydd yn ei wisg a'i rhwygo, a gwnaeth yr holl ddynion oedd gydag ef yr un modd; 12a buont yn galaru, yn wylo ac yn ymprydio hyd yr hwyr dros Saul a'i fab Jonathan, a hefyd dros bobl yr ARGLWYDD a thŷ Israel, am eu bod wedi syrthio drwy'r cleddyf. 13Holodd Dafydd y llanc a ddaeth â'r newydd, “Un o ble wyt ti?” Atebodd yntau, “Mab i Amaleciad a ddaeth yma i fyw wyf fi.” 14Ac meddai Dafydd wrtho, “Sut na fyddai arnat ofn estyn dy law i ddistrywio eneiniog yr ARGLWYDD?” 15Yna galwodd Dafydd ar un o'r llanciau a dweud, “Tyrd, rho ergyd iddo!” Trawodd yntau ef, a bu farw. 16Yr oedd Dafydd wedi dweud wrtho, “Bydded dy waed ar dy ben di dy hun; tystiodd dy enau dy hun yn dy erbyn pan ddywedaist, ‘Myfi a laddodd eneiniog yr ARGLWYDD ’.”

Galarnad Dafydd am Saul a Jonathan

17Canodd Dafydd yr alarnad hon am Saul a'i fab Jonathan, 18a gorchymyn ei dysgu i'r Jwdeaid. Y mae wedi ei hysgrifennu yn Llyfr Jasar:

Notes for verses 17–182 entries

Text notes

19“O ardderchowgrwydd Israel, a drywanwyd ar dy uchelfannau!

O fel y cwympodd y cedyrn!

20“Peidiwch â'i adrodd yn Gath,

na'i gyhoeddi ar strydoedd Ascalon,

rhag i ferched y Philistiaid lawenhau,

rhag i ferched y dienwaededig orfoleddu.

21“O fynyddoedd Gilboa,

na foed gwlith na glaw arnoch,

chwi feysydd marwolaeth.

Canys yno yr halogwyd tarian y cedyrn,

tarian Saul heb ei hiro ag olew.

Notes for verse 211 entry

Text notes

22“Oddi wrth waed lladdedigion,

oddi wrth fraster rhai cedyrn,

ni throdd bwa Jonathan erioed yn ôl;

a chleddyf Saul ni ddychwelai'n wag.

23“Saul a Jonathan, yr anwylaf a'r hyfrytaf o wŷr,

yn eu bywyd ac yn eu hangau ni wahanwyd hwy;

cyflymach nag eryrod oeddent, a chryfach na llewod.

24“O ferched Israel, wylwch am Saul,

a fyddai'n eich gwisgo'n foethus mewn ysgarlad,

ac yn rhoi gemau aur ar eich gwisg.

25“O fel y cwympodd y cedyrn yng nghanol y frwydr!

lladdwyd Jonathan ar dy uchelfannau.

26“Gofidus wyf amdanat, fy mrawd Jonathan;

buost yn annwyl iawn gennyf;

yr oedd dy gariad tuag ataf yn rhyfeddol,

y tu hwnt i gariad gwragedd.

27“O fel y cwympodd y cedyrn,

ac y difethwyd arfau rhyfel!”