Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

2 Brenhinoedd 10

Lladd Meibion Ahab a Brodyr Ahaseia

1Yr oedd gan Ahab ddeg a thrigain o feibion yn Samaria. Ysgrifennodd Jehu lythyrau a'u hanfon i Samaria at swyddogion y ddinas, yr henuriaid a'r rhai oedd yn gofalu am blant Ahab, gan ddweud, 2“Cyn gynted ag y cewch y llythyr hwn, gan fod meibion eich arglwydd gyda chwi, a bod gennych gerbydau a meirch a dinas gaerog ac arfau, 3dewiswch y gorau a'r cymhwysaf o feibion eich arglwydd a'i osod ar orsedd ei dad, ac ymladdwch dros dylwyth eich arglwydd.” 4Ond cawsant ofn mawr a dweud, “Gwelwch, methodd dau frenin ei wrthsefyll; sut y safwn ni?” 5Yna anfonodd goruchwyliwr y palas a llywodraethwr y ddinas a'r henuriaid a'r gwarcheidwaid at Jehu a dweud, “Dy weision di ydym, a gwnawn bopeth a ddywedi wrthym; nid ydym am ddewis neb yn frenin; gwna di'r hyn sydd orau gennyt.” 6Ysgrifennodd ail lythyr atynt, gan ddweud, “Os ydych o'm plaid ac am ufuddhau imi, cymerwch bennau holl feibion eich arglwydd, a dewch ataf i Jesreel tua'r amser hwn yfory.” Yr oedd meibion y brenin, deg a thrigain ohonynt, yn cael eu magu gydag uchelwyr y ddinas. 7Ar ôl iddynt dderbyn y llythyr, cymerasant feibion y brenin, a lladd y deg a thrigain a rhoi eu pennau mewn cewyll a'u hanfon ato i Jesreel. 8Pan ddaeth y cennad a'i hysbysu eu bod wedi dod â phennau meibion y brenin, dywedodd, “Gosodwch hwy yn ddau bentwr o flaen y porth hyd y bore.” 9Aeth yntau allan yn y bore a sefyll yno a dweud wrth yr holl bobl, “Yr ydych chwi'n bobl deg. Edrychwch, gwneuthum i gynllwyn yn erbyn f'arglwydd a'i ladd, ond pwy a laddodd y rhain i gyd? 10Gwelwch felly nad yw'r un gair o'r hyn a lefarodd yr ARGLWYDD yn erbyn teulu Ahab wedi methu; y mae'r ARGLWYDD wedi gwneud yr hyn a addawodd drwy ei was Elias.” 11Lladdodd Jehu bawb oedd ar ôl o deulu Ahab yn Jesreel, a'i holl uchelwyr a'i gyfeillion a'i offeiriaid, heb adael neb. 12Yna ymadawodd Jehu i fynd i Samaria; ac yn ymyl Beth-eced y Bugeiliaid 13cyfarfu â brodyr Ahaseia brenin Jwda, a gofyn, “Pwy ydych chwi?” Atebasant, “Brodyr Ahaseia, ac yr ydym yn mynd i gyfarch plant y brenin a phlant y fam frenhines.” 14Ar hynny dywedodd, “Daliwch hwy'n fyw.” Ac wedi iddynt eu dal, lladdasant hwy wrth bydew Beth-eced, dau a deugain ohonynt, heb arbed yr un.

Notes for verses 1–141 entry

Text notes

Lladd Gweddill Teulu Ahab

15Wedi iddo ymadael oddi yno, gwelodd Jehonadab fab Rechab yn dod i'w gyfarfod. Cyfarchodd ef a gofyn, “A wyt ti mor ddiffuant gyda mi ag yr wyf fi gyda thi?” Atebodd Jehonadab, “Ydwyf.” Yna dywedodd Jehu, “Os wyt, estyn dy law.” Estynnodd ei law, a chymerodd yntau ef ato i'r cerbyd, 16a dweud wrtho, “Tyrd gyda mi, a gwêl fy sêl dros yr ARGLWYDD.” 17Aeth ag ef yn ei gerbyd, a phan ddaeth i Samaria, lladdodd bawb oedd yn weddill o deulu Ahab yn Samaria, a'u difa, yn ôl y gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Elias.

Lladd Addolwyr Baal

18Casglodd Jehu yr holl bobl a dweud wrthynt, “Yr oedd Ahab yn addoli Baal ychydig; bydd Jehu yn ei addoli lawer. 19Felly galwch ataf holl broffwydi Baal, ei holl addolwyr a'i holl offeiriaid, heb adael yr un ar ôl, oherwydd rwyf am gynnal aberth mawr i Baal, ac ni chaiff neb fydd yn absennol fyw.” Ond gweithredu'n gyfrwys yr oedd Jehu, er mwyn difa addolwyr Baal. 20Gorchmynnodd Jehu, “Cyhoeddwch gynulliad sanctaidd i Baal.” Gwnaethant hynny, 21ac anfonodd Jehu drwy holl Israel, a daeth holl addolwyr Baal yno, heb adael neb ar ôl, a daethant i deml Baal a'i llenwi i'r ymylon. 22Yna dywedodd wrth yr un oedd yn gofalu am y gwisgoedd, “Dwg allan wisg i bob un o addolwyr Baal.” A dygodd yntau'r gwisgoedd iddynt. 23Yna daeth Jehu a Jehonadab fab Rechab at deml Baal, a dweud wrth addolwyr Baal, “Chwiliwch yn fanwl rhag bod neb o addolwyr yr ARGLWYDD yna gyda chwi, dim ond addolwyr Baal yn unig.” 24A phan aethant i offrymu aberthau a phoethoffrymau, gosododd Jehu bedwar ugain o'i ddynion y tu allan a dweud, “Os bydd un o'r bobl a roddais yn eich llaw yn dianc, cymeraf fywyd un ohonoch chwi yn ei le.” 25Ar ôl gorffen poethoffrymu, dywedodd Jehu wrth y gwarchodlu a'r swyddogion, “Dewch, lladdwch hwy heb adael i neb ddianc,” a lladdasant hwy â'r cleddyf. Yna rhuthrodd y gwarchodlu a'r swyddogion at dŵr teml Baal, 26a dwyn allan y golofn o deml Baal a'i llosgi, 27ac yna distrywio colofn Baal a difrodi teml Baal a'i throi'n geudy, fel y mae hyd heddiw. 28Er i Jehu ddileu Baal o Israel, 29ni throdd oddi wrth bechodau Jeroboam fab Nebat, a wnaeth i Israel bechu, sef oddi wrth y lloi aur oedd ym Methel a Dan.

30Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Jehu, “Gan dy fod wedi rhagori mewn gwneud yr hyn sy'n iawn yn fy ngolwg, a gwneud y cyfan oedd yn fy mwriad yn erbyn teulu Ahab, bydd plant i ti hyd y bedwaredd genhedlaeth yn eistedd ar orsedd Israel.” 31Ond ni ofalodd Jehu am rodio yng nghyfraith yr ARGLWYDD, Duw Israel, â'i holl galon; ni throdd oddi wrth bechodau Jeroboam, a barodd i Israel bechu.

Marwolaeth Jehu

32Yr adeg honno y dechreuodd yr ARGLWYDD gyfyngu terfynau Israel, a bu Hasael yn ymosod ar holl oror Israel 33i'r tu dwyrain o'r Iorddonen, gwlad Gilead i gyd, tir Gad, Reuben a Manasse, i fyny o Aroer sydd wrth nant Arnon, sef Gilead a Basan.

34Am weddill hanes Jehu, a'i holl wrhydri a'r cwbl a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel? 35Bu farw Jehu, a chladdwyd ef yn Samaria, a daeth ei fab Jehoahas yn frenin yn ei le. 36Wyth mlynedd ar hugain y bu Jehu yn frenin ar Israel yn Samaria.