Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

1 Cronicl 16

1Daethant ag arch Duw a'i gosod yng nghanol y babell a gododd Dafydd iddi, ac aberthu poethoffrymau a heddoffrymau o flaen Duw. 2Wedi iddo orffen aberthu'r poethoffrwm a'r heddoffrymau, bendithiodd Dafydd y bobl yn enw'r ARGLWYDD, 3a rhannodd i bob un o'r Israeliaid, yn wŷr a gwragedd, dorth o fara, darn o gig a swp o rawnwin. 4Penododd rai o'r Lefiaid i wasanaethu o flaen arch yr ARGLWYDD, i goffáu a moliannu a chlodfori ARGLWYDD Dduw Israel: 5Asaff yn gyntaf, ac ar ei ôl ef Sechareia, Jeiel, Semiramoth, Jehiel, Matitheia, Eliab, Benaia ac Obed-edom. Yr oedd gan Jeiel nablau a thelynau, ac yr oedd Asaff yn canu'r symbalau. 6Yr oedd yr offeiriaid Benaia a Jahasiel i chwythu trwmpedau yn barhaus o flaen arch cyfamod Duw.

Emyn o Fawl

Salm. 105:1–15; 96:1–13; 106:1, 47–48

7Y pryd hwnnw y rhoddodd Dafydd am y tro cyntaf i Asaff a'i frodyr y moliant hwn i'r ARGLWYDD:

8Diolchwch i'r ARGLWYDD! Galwch ar ei enw,

gwnewch yn hysbys ei weithredoedd ymysg y bobloedd.

9Canwch iddo, moliannwch ef,

dywedwch am ei holl ryfeddodau.

10Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd,

llawenhaed calon y rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD.

11Ceisiwch yr ARGLWYDD a'i nerth,

ceisiwch ei wyneb bob amser.

12Cofiwch y rhyfeddodau a wnaeth,

ei wyrthiau a'r barnedigaethau a gyhoeddodd,

13chwi ddisgynyddion Israel, ei was,

chwi blant Jacob, ei etholedig.

14Ef yw'r ARGLWYDD ein Duw,

ac y mae ei farnedigaethau dros yr holl ddaear.

15Cofiwch ei gyfamod dros byth,

gair ei orchymyn hyd fil o genedlaethau,

16sef y cyfamod a wnaeth ag Abraham,

a'i lw i Isaac,

17yr hyn a osododd yn ddeddf i Jacob,

ac yn gyfamod tragwyddol i Israel,

18a dweud, “I chwi y rhoddaf wlad Canaan

yn gyfran eich etifeddiaeth.”

19Pan oeddech yn fychan o rif,

yn ychydig, ac yn grwydriaid yn y wlad,

20yn crwydro o genedl i genedl,

ac o un deyrnas at bobl eraill,

21ni adawodd i neb eich darostwng,

ond ceryddodd frenhinoedd o'ch achos,

22a dweud, “Peidiwch â chyffwrdd â'm heneiniog,

na gwneud niwed i'm proffwydi.”

23Canwch i'r ARGLWYDD, yr holl ddaear,

cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth.

24Dywedwch am ei ogoniant ymysg y bobloedd,

ac am ei ryfeddodau ymysg yr holl genhedloedd.

25Oherwydd mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl;

y mae i'w ofni'n fwy na'r holl dduwiau.

26Eilunod yw holl dduwiau'r bobloedd,

ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd.

27Y mae anrhydedd a mawredd o'i flaen,

nerth a llawenydd yn ei fangre ef.

28Rhowch i'r ARGLWYDD, dylwythau'r cenhedloedd,

rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd a nerth;

29rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd ei enw,

dygwch offrwm a dewch o'i flaen.

Ymgrymwch i'r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd.

30Crynwch o'i flaen, yr holl ddaear;

yn awr y mae'r byd yn sicr, ac nis symudir.

31Bydded y nefoedd yn llawen a gorfoledded y ddaear,

a dywedent ymhlith y cenhedloedd, “Y mae'r ARGLWYDD yn frenin.”

32Rhued y môr a'r cyfan sydd ynddo,

llawenyched y maes a phopeth sydd ynddo.

33Yna bydd prennau'r goedwig yn canu'n llawen

o flaen yr ARGLWYDD, oherwydd y mae'n dod i farnu'r ddaear.

34Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw,

ac y mae ei gariad hyd byth.

35Dywedwch, “Achub ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth;

cynnull ni ac arbed ni o blith y cenhedloedd,

inni gael rhoi diolch i'th enw sanctaidd

ac ymhyfrydu yn dy fawl.”

36Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel,

o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.

A dywedodd yr holl bobl, “Amen”, a moli'r ARGLWYDD.

Addoli yn Jerwsalem a Gibeon

37A gadawodd Dafydd Asaff a'i frodyr o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD i wasanaethu yno'n barhaol yn ôl gofynion pob dydd. 38Gadawodd yno hefyd Obed-edom gyda'i wyth brawd a thrigain; Obed-edom fab Jeduthun, a Hosa, oedd i fod yn borthorion. 39Ond gadawodd ef Sadoc yr offeiriad, a'i frodyr yr offeiriaid, o flaen tabernacl yr ARGLWYDD yn yr uchelfa yn Gibeon, 40i aberthu poethoffrymau i'r ARGLWYDD ar allor y poethoffrwm yn gyson fore a hwyr fel sy'n ysgrifenedig yng nghyfraith yr ARGLWYDD, a orchmynnodd ef i Israel. 41Gyda hwy yr oedd Heman, Jeduthun a'r rhai eraill oedd wedi eu hethol a'u henwi i foliannu'r ARGLWYDD am fod ei gariad hyd byth. 42Heman a Jeduthun oedd yn gofalu am yr trwmpedau a'r symbalau a'r offerynnau cerdd cysegredig ar gyfer y cantorion. A meibion Jeduthun oedd yn gofalu am y porth.

Notes for verses 37–421 entry

Text notes

43Yna aeth pawb adref a dychwelodd Dafydd i gyfarch ei deulu.