Select a verse and hit ‘themes’ in the action bar.
View all themesGweddi am help Duw
Cân yr orymdaith.
1Ar ôl i'r ARGLWYDD roi llwyddiant i Seion eto,
roedden ni fel rhai'n breuddwydio –
2roedden ni'n chwerthin yn uchel,
ac yn canu'n llon.
Roedd pobl y cenhedloedd yn dweud:
“Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud pethau mawr iddyn nhw!”
3Ydy, mae'r ARGLWYDD wedi gwneud pethau mawr i ni.
Dŷn ni mor hapus!
4O ARGLWYDD, wnei di roi llwyddiant i ni eto,
fel pan mae ffrydiau dŵr yn llifo yn anialwch y Negef?
5Bydd y rhai sy'n wylo wrth hau
yn canu'n llawen wrth fedi'r cynhaeaf.
6Mae'r un sy'n cario'i sach o hadau
yn crio wrth fynd i hau.
Ond bydd yr un sy'n cario'r ysgubau
yn dod adre dan ganu'n llon!
Read the Bible Book Club guide to Psalms
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015
Get the latest on how we’re bringing the Bible to life around the world in a short, weekly email.
British and Foreign Bible Society operates in England, Wales, the Channel Islands and the Isle of Man.
And we also work with a network of local Bible Societies around the world. Find your closest Bible Society here
Bible Society, Stonehill Green, Westlea, Swindon, SN5 7DG. Registered charity 232759
Bible Society, Stonehill Green, Westlea, Swindon, SN5 7DG. Registered charity 232759