Croeso i Glwb Llyfrau’r Beibl Cymraeg, sy’n eich helpu i ddarllen y Beibl gyda’ch ffrindiau – un llyfr ar y tro.
Rydym wedi dechrau drwy gyfieithu deg llyfr o’r Beibl i chi isod a bydd y canllawiau cynorthwyol hyn yn rhoi gwybodaeth gefndir hylaw i chi gan gynnwys cynghorion, cwestiynau trafod a rhai awgrymiadau ar sut i drin adrannau cymhleth.
Yr unig beth sydd ei angen yw dewis llyfr, perswadio’ch ffrindiau, a dechrau darllen!
Ydych chi eisiau dechrau clwb llyfrau ond erioed wedi trefnu clwb – na bod yn rhan o un – o’r blaen? Dyma ychydig o awgrymiadau.....
Mae cyfarfod misol gan amlaf yn rhoi digon o amser i ddarllen y llyfr ac yn ddigon o amser i godi stêm.
Fyddwch chi’n dewis llyfr yn eich tro? Pleidleisio? Penderfynu gweithio drwy adran neu thema yn y Beibl?
Gall caffis, tafarnau neu gartref rhywun weithio’n dda.
Gall pedwar i chwech weithio’n dda. Mae mwy nag wyth yn gallu bod yn rhy fawr i bawb gael dweud eu dweud.
Fydd yr un unigolyn yn arwain y drafodaeth bob tro neu fyddwch chi’n gadael i bob un rannu’r cyfrifoldeb?
Gall ychydig o fyfyrdodau wedi eu taro i lawr ar gerdyn post tra bydd pobl yn darllen eich atgoffa o’r hyn roeddech am ei rannu pan fyddwch chi’n cyfarfod.
Defnyddiwch ein canllawiau darllen Clwb Llyfrau’r Beibl I helpu eich myfyrdodau, cwestiynau a thrafodaeth.
• Beth am fynd i'r afael â rhai o'r llyfrau y byddech chi fel arfer yn eu hosgoi?
• Bob amser yn darllen y Testament Newydd? Rhowch gynnig ar rywbeth o'r Hen Destament!
• Eisiau darganfod barddoniaeth y Beibl? Rhowch gynnig ar y Salmau.
• Dechreuwch gyda llyfrau byr - byddwch yn gweld fod y canllawiau defnyddiol hefyd yn rhoi amseroedd darllen!
• Beth am ddechrau yn y dechrau, gyda Genesis?
• Dyma ychydig o syniadau - ar ôl i chi ddechrau arni mae'n debyg y byddwch yn ei chael hi'n hawdd gweld ble rydych eisiau mynd nesaf.
Gadewch i ni wybod sut mae’ch clwb llyfrau’n llwyddo ar Twitter a Facebook neu anfonwch e-bost atom: [email protected].
Os oes gennych chi awgrymiadau eraill ar sut i gynnal clwb llyfrau, gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda!