Skip to main content

Ysgol i fyny i’r nefoedd: Genesis 28.10–22 (Ionawr 27, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Genesis 28.10–22

Mae'r stori hon yn digwydd wrth i'r tensiynau rhwng Jacob ac Esau gynyddu. Mae'n dod yn gliriach mai Jacob yw'r mab y bydd Duw yn gwneud cenedl drwyddo ac yn bendithio'r byd. Mae ei freuddwyd o ysgol i fyny i'r nefoedd gydag angylion yn mynd i fyny ac i lawr yn symbol o'r ffaith bod ganddo, gyda'i holl ddiffygion, berthynas â Duw: nid yw Esau byth yn breuddwydio am angylion.

Mae hefyd yn symbol pwerus o agosrwydd y ddaear i'r nefoedd. Nid ydynt mor bell oddi wrth ei gilydd ag rydym yn meddwl eu bod nhw weithiau. Roedd y bardd Francis Thompson (1859-1907) yn byw bywyd cythryblus a oedd yn cynnwys bod yn gaeth i gyffuriau a digartrefedd. Yn un o'i gerddi, Teyrnas Dduw, mae'n ysgrifennu am 'the traffic of Jacob's ladder/ Pitched betwixt heaven and Charing Cross' and 'Christ walking on the water/ Not of Gennesareth, but Thames'.

Gall y byd ymddangos yn gyffredin iawn weithiau, heb lawer o le i Dduw. Mae stori fel hon yn ein hatgoffa bod y ffiniau rhwng y ddaear a'r nefoedd yn fân-dyllog. Mae traffig dwy ffordd rhyngddynt, gan fod Duw yn cynnwys ei hun yn ein byd ac rydym yn gweddïo arno.

Galwodd Jacob y lle yn 'Bethel', sy'n golygu 'Tŷ Duw'. ‘Mae'n rhaid bod yr ARGLWYDD yma,’ meddai, ‘a doeddwn i ddim yn sylweddoli hynny' meddai (adnod 16). Weithiau byddwn yn cael yr un profiad, efallai yn y lleoedd mwyaf cyffredin. Nid yw Duw byth yn bell oddi wrthym ni.

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch dy fod yn ymwneud â'r byd ac yn rhan o fy mywyd. Helpa fi i fod yn fwy ymwybodol o dy bresenoldeb.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible