Skip to main content

Yn ddiogel wedi llongddrylliad: Actau 27.39–44 (8 Awst 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Actau 27

Dyma un o’r adrannau ‘ni’ yn yr Actau; mae Luc yn ysgrifennu yn y person cyntaf, oherwydd ei fod yno. Mae’n stori antur wych – bydd unrhyw un sy’n hoffi straeon am y môr yn mwynhau’r stori hon – ond mae Luc hefyd yn siarad â ni am bethau dyfnach.

Cymharwch Actau 27 â storm arall ar y môr ym Marc 4.35–41 (mae gan Mathew a Luc yr un stori). Mae Iesu a’r disgyblion yn cael eu dal mewn storm ar Fôr Galilea; mae’r disgyblion wedi dychryn ac yn meddwl eu bod nhw’n mynd i foddi, ac mae Iesu’n cysgu. Yn Actau, hefyd, mae Duw yn cysgu neu’n absennol. Mae’n argyfwng hir lle mae’r digwyddiadau y tu hwnt i reolaeth, mae pobl yn ymdrechu’n galed i oroesi, mae yna ofn a hyd yn oed panig. Yn wahanol i’r disgyblion, serch hynny, mae Paul yn aros yn ddigynnwrf ac yn ffyddlon. Mae Paul yn sicr o ddibenion Duw ar ei gyfer. Mae o’n dal y criw gyda’i gilydd trwy gyngor doeth a’i esiampl ei hun, ac maent i gyd yn goroesi – er bod eu llong wedi’i dryllio ac maent wedi colli popeth ond eu bywydau.

Mae’r stormydd sy’n ein hwynebu weithiau fel y rhai a wynebodd y disgyblion ar Galilea; mae’r gwyntoedd yn peidio ac mae ‘pobman yn hollol dawel’ (Marc 4.39), a does neb ddim gwaeth. Weithiau rydym yn goroesi, er cael ein brifo, gan golli llawer a oedd yn werthfawr i ni. Yr hyn a oedd yn cyfrif i Paul, serch hynny, oedd bod Duw gydag ef a’i fod yn gweithredu ei fwriad. Gall pob Cristion gael yr un sicrwydd.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i ymddiried ynddot ti hyd yn oed pan fydd fy mywyd ar ei dywyllaf ac anoddaf. Pan ymddengys fy mod yn colli mwy nag yr wyf yn ennill, a phan fydd yr hyn rwyf yn ei werthfawrogi yn cael ei dynnu oddi arna i, helpa fi gofio dy fod yn ffyddlon.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible