Skip to main content

Ydyn ni yno eto?: Philipiaid 1.3–11 (Mawrth 27, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, trugarha. Glanha fi. Tawela fy meddwl. Helpa fi i wrando wrth i ti siarad.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Philipiaid 1

Yng nghanol y ganrif gyntaf, ysgrifennodd yr Apostol Paul at gymdeithas Gristnogol yn ninas Philipi yng Ngroeg. Roedd y gynulleidfa wedi cychwyn fel eglwys tŷ yr oedd Paul ei hun wedi'i sefydlu gynt (gweler Actau 16). Yn y cyfamser, roedd wedi cael ei gadw yn y ddalfa achos ei ffydd; ac eto, er iddo ysgrifennu o’r carchar, mae Paul yn pwysleisio’r llawenydd o fod yn Gristion nad yw’n dibynnu ar amgylchiadau allanol.

Mae pennod agoriadol y llythyr yn ein hatgoffa o'r themâu a archwiliwyd dros yr ychydig ddyddiau diwethaf: eglwys ifanc, a gasglwyd gan Grist, wedi'i grymuso gan yr Ysbryd, ond dan bwysau gan y rhai sy'n ei wrthwynebu.

Mae adnodau heddiw yn cychwyn gyda mater y bydd Paul yn parhau i ddychwelyd ato: na fyddai ei gyd-Gristnogion yn Philipi yn ildio dan bwysau, ond ‘byw yn gwbl onest a di-fai nes i'r Meseia ddod yn ôl' (adnod 10); 'sefyll yn gadarn' (adnod 27); ‘daliwch ati i weithio ar eich iechyd ysbrydol fel cymuned' (2.12); ‘gadewch i ni fyw yn gyson â beth dŷn ni eisoes yn ei wybod sy'n wir' (3.16). Wrth i wrthwynebiad allanol gynyddu, roedd y demtasiwn i bellhau oddi wrth Grist yn dal i lechu yn y cysgodion.

Er mai ef yw eu mentor a chawr y ffydd, mae Paul yn atgoffa nid yn unig ei ddarllenwyr ond ei hun nad yw yno eto. Os yw ef hyd yn oed yn gweld yr angen i ‘ennill y wobr sydd gan Dduw ar ein cyfer ni. Ei alwad i'r nefoedd o achos beth wnaeth y Meseia Iesu’ (Philipiaid 3.14), sut na allem ni?

Gweddi

Gweddi

Diolch i ti, Dad, fod fy iachawdwriaeth yn ddiogel yn dy Fab a dy fod gyda mi rwan, trwy dy Ysbryd. Helpa fi i fyw'n deilwng o fy ngalwad ac i gadw golwg ar y nod terfynol.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Michael Pfundner, Rheolwr Cefnogi Cyhoeddi Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible