Skip to main content

Y Duw Sanctaidd: Exodus 19 (Mawrth 8, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Exodus 19

Mae Exodus 19 yn darlunio Duw fel rhywun i'w ofni - nid yn unig yn yr ystyr o barchedig ofn a pharch, ond yn yr ystyr dychryn. Mae presenoldeb Duw ar Fynydd Sinai yn peryglu bywyd i bawb ac eithrio'r cyfryngwyr dewisol, Moses ac Aaron. Mae mwg trwchus yn chwyrlio uwchben y bobl a gasglwyd, sioc gorfforol daeargryn o dan eu traed, a sŵn utgorn a tharanau o'u cwmpas. Gorlwytho synhwyraidd yw hwn, gyda’r bwriad o’u parlysu ag ofn.

Mae'n bwysig, serch hynny, darllen y disgrifiad o fwg a tharanau yng nghyd-destun adnodau cyntaf y bennod, a sylwi ar y neges gadarnhaol. Mae Duw eisiau i'w bobl wybod heb amheuaeth mai ef yw'r un Duw pwerus a oedd yn gyfrifol am gwymp cenedl yr Aifft, a'u bod bellach mewn safle o anrhydedd o'i flaen. Nid ydynt yn gaethweision mwyach, maent i fod yn eiddo gwerthfawr iddo, yn deyrnas offeiriadol ac yn genedl sanctaidd o bobl a fydd yn cynrychioli'r Duw hwn i'r cenhedloedd o gwmpas. Ac eto, er mwyn cyflawni'r pwrpas hwnnw, mae angen iddynt hefyd gael eu hargyhoeddi'n llwyr o'i sancteiddrwydd - ei fod yn hollol ar wahân i bob bod a grëwyd ac yn dal pŵer bywyd a marwolaeth drostynt.

Fel Cristnogion, rydym yn tueddu i israddio natur ddychrynllyd Duw. Rydym yn ei adnabod, fel tad a ffrind cariadus, sy'n cerdded ochr yn ochr â ni yn ein bywyd bob dydd. Trwy Iesu mae gennym fraint anhygoel nad oedd gan yr Israeliaid - mynediad i orseddle Duw yn y nefoedd. Ond mae angen i ni hefyd gofio ei fod yn bwerus ac yn sanctaidd, a bod cyfrifoldeb, ynghyd â braint, i'w gynrychioli'n ffyddlon i'r bobl o'n cwmpas.

Gweddi

Gweddi

Diolch i ti, Arglwydd Dduw Israel, ein bod ninnau hefyd yn eiddo gwerthfawr i ti. Helpa ni i dy addoli yng ngwybodaeth lawn dy sancteiddrwydd a'th gariad. Amen.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Lisa Cherrett, Rheolwr Prosiect Golygyddol yn y tîm Cyhoeddi.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible