Skip to main content

Y drugaredd dragwyddol: 2 Samuel 22.17–28 (25 Medi 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 2 Samuel 22.17–28

Mae’r bennod hon yn salm o ganmoliaeth i Dduw am gadw Dafydd yn ddiogel yn ei drafferthion. Mae hi hefyd yn llyfr y Salmau (Salm 18). Mae’n defnyddio delweddau byw wedi’u tynnu o stormydd a llifogydd i ddarlunio treialon bywyd Dafydd – a’n bywyd ni – ac yn portreadu Duw fel yr Achubwr hollalluog sy’n ei waredu rhag gelynion naturiol a dynol.

Mae hefyd yn cynnwys un adran ryfedd iawn, Mae adnodau 21-28 yn cysylltu ffafr Duw â’n hymddygiad: ‘Rwyt ti'n ffyddlon i'r rhai sy'n ffyddlon, ac yn deg â'r rhai di-euog’ meddai Dafydd (adnod 26). Ond gwyddom fod Duw yn ffyddlon i’r rhai di-ffydd, ac nad yw’r un ohonom yn berffaith. Ac mae hefyd yn dweud, ‘Do, dw i wedi dilyn yr ARGLWYDD yn ffyddlon, heb droi cefn ar Dduw na gwneud drwg’ (adnod 22). Ond mae wedi godinebu a llofruddio.

Ar yr wyneb, mae Dafydd yn rhithdybiol. Ond wrth ddarllen y geiriau yma yng nghyd-destun yr hyn rydym yn ei wybod o ddysgeidiaeth am ras a maddeuant mewn man arall yr Ysgrythur, maent yn dod yn fynegiant o obaith dwys. Dywed Eseia 1.18; Dewch, gadewch i ni ddeall ein gilydd,” —meddai'r ARGLWYDD. “Os ydy'ch pechodau chi'n goch llachar, gallan nhw droi'n wyn fel yr eira; os ydyn nhw'n goch tywyll, gallan nhw fod yn wyn fel gwlân’. Mae Dafydd yn ysgrifennu amdano ei hun fel y mae yng ngolwg Duw: nid yn ddibechod, ond yn bechadur sydd wedi cael maddeuant. Mae tristwch a gofid am bechod yn barhaus, a dylent fod. Ond maent yn cael eu gorchuddio gan lawenydd oherwydd gras Duw.

Gweddi

Gweddi

Duw, gad imi beidio anghofio fy mhechodau a’m methiannau; ond gad imi gofio dy drugaredd a dy gariad bob amser.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible