Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.
Mae’r ffordd mae Marc yn adrodd dechrau gweinidogaeth Iesu, mae'n dechrau gyda chlec. Mae'n casglu disgyblion ac yn dechrau bwrw allan cythreuliaid a gwella pobl. Yr argraff a gawn yw rhywun a allai fod yn ffigwr cyhoeddus mawr, ond sydd dal ag amser i bobl. Mae mam yng nghyfraith Simon (Pedr) yn sâl; daeth Iesu, ‘ac aeth e ati a gafael yn ei llaw, a'i chodi ar ei thraed. Diflannodd y tymheredd oedd ganddi, a dyma hi'n codi a gwneud pryd o fwyd iddyn nhw' (adnod 31). Mae gofal bugeiliol tawel yn yr hyn y mae'n ei wneud. Efallai y byddem yn meddwl ei bod hi'n haeddu rhywfaint o heddwch ar ôl bod yn sâl, ond mae ‘gwneud pryd o fwyd iddyn nhw’ i fod i bwysleisio ei bod yn bellach yn iach ac yn gryf unwaith eto. Mae ei iachâd yn ysbrydoli eraill i ddod hefyd; y noson honno, mae'r dref gyfan yn ymgynnull ar gyfer gweinidogaeth.
Ysbrydolodd y stori hon un o'r emynau Saesneg harddaf. Mae'n dechrau:
At even, ere the sun was set,
the sick, O Lord, around thee lay;
O in what divers pains they met!
O with what joy they went away!
Aiff yr ysgrifennwr, Henry Twells, ymlaen i feddwl am y gwahanol anghenion yr ydym ninnau hefyd yn dod at Grist: '... some are sick, and some are sad,/ And some have never loved thee well,/ And some have lost the love they had.'
Daw'r emyn i ben:
Thy touch has still its ancient power;
no word from thee can fruitless fall:
Hear, in this solemn evening hour,
and in thy mercy heal us all.
Mae angen iachâd ar bob un ohonom mewn rhyw ffordd. Mae Crist yn dal i ddod atom ni heddiw.
Duw, helpa fi i ymddiried yn dy allu iachaol a maddau. Bendithia fi a'r rhai dwi'n eu caru, wrth i ti fendithio'r rhai a ddaeth atat ti'r noson honno yng Nghapernaum.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.