Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.
Roedd y Brenin Agripa, y mae Paul yn amddiffyn ei hun o’i flaen yn y bennod hon, yn is-frenin i’r Rhufeiniaid ac wedi'i fagu yn llys yr Ymerawdwr Claudius. Roedd yn Iddewig o ran ei ffydd, serch hynny, ac roedd yn fwy parod i dderbyn tystiolaeth Paul na’r Rhufeinwr Ffestus, oedd yn credu bod Paul yn wallgof. Er na chafodd Agripa dröedigaeth (adnod 28) mae’n cydnabod bod profiadau a dysgeidiaeth Paul yn gyfan gwbl o fewn bywyd crefyddol Iddewig a thraddodiad ysgrythurol. Roedd y Phariseaid yn credu mewn atgyfodiad; ac felly roedd Paul hefyd. Dysgodd y proffwydi y byddai’r Meseia yn cael ei wrthod a’i ladd; dywedodd Paul ei fod wedi digwydd. Yn dawel ond yn angerddol, mae Paul yn amlinellu rhesymeg ffydd, ac yn llwyddo i’w darbwyllo, o leiaf, nad yw’n droseddwr. Fodd bynnag, mae Paul wedi apelio at Cesar, ac mae cyfiawnder Rhufeinig wedi’i rhoi ar waith: at Cesar y mae’n rhaid iddo fynd.
Mae Agripa yn gweld – mewn ffordd academaidd, wrthrychol – bod gan Paul bwynt. Ond mae Paul wedi ei gipio gan wirionedd mawr. Cafodd gweledigaeth, ac wedi cwrdd ag Iesu ei hun – ac fel mae’n dweud wrth y brenin, ‘Felly, eich mawrhydi, dw i wedi ufuddhau i'r weledigaeth ges i o'r nefoedd’ (adnod 19).
Nid yw pob un ohonom yn cael gweledigaethau fel Paul ar y ffordd i Ddamascus. I’r rhan fwyaf ohonom, y rhan fwyaf o’r amser, gallai ffydd fod mewn isgywair: mae Cristnogaeth yn gwneud synnwyr, ac mae Iesu’n real. Ond rydym yn dal i gael ein galw i ymrwymo: nid yn unig i ddadansoddi Crist, fel Agripa, ond i’w ddilyn, fel Paul.
Duw, gad imi fod yn ufudd i’r weledigaeth a gefais gen ti. Boed i Grist fod y cyfan imi.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl