Skip to main content

Ti ydy’r dyn!: 2 Samuel 12.1–15 (15 Medi 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 2 Samuel 12.1–15

Roedd Dafydd wedi cyflawni’r trosedd perffaith. Fodd bynnag, fel y gwyddom o sawl ffilm Hollywood, mae yna gaynlyniadau bob amser. Yn yr achos hwn, y canlyniad oedd y proffwyd Nathan. Mae’n dweud dameg wrth Dafydd. Y dyn tlawd yw Wreia; yr oen yw Bathseba; Dafydd ei hun yw’r dyn cyfoethog barus a gormesol. Mae Dafydd yn ddall i’w gamwedd ei hun nes i Nathan agor ei lygaid: ‘Ti ydy’r dyn!’ (adnod 7).

Mae edifeirwch Dafydd yn achub ei fywyd ei hun (adnod 13). Ond mae’n dal i wynebu dyfarniad Nathan, sy’n rhagflaenu’r treialon y bydd yn eu hwynebu yn nes ymlaen yn ei deyrnasiad (adnod 11). Y canlyniad uniongyrchol, serch hynny, yw marwolaeth ei blentyn ef a Bathseba.

Heddiw, ni allwn ddychmygu Duw yn gwneud hyn. Yn amseroedd cynharach y Beibl, roedd plant a theulu yn cael eu hystyried yn wahanol. Roedd gan y tad bŵer bywyd a marwolaeth dros ei blant (Genesis 22, Barnwyr 11); roedd yna ymdeimlad o berchnogaeth. Roedd yna fath o resymeg yn perthyn i gosbi dyn trwy farwolaeth ei blant.

Mae edifeirwch oddi wrth bechod wedi’i ymgorffori yn ddisgyblaeth Gristnogol. Wrth i ni gydnabod ein hunain yn yr Ysgrythur, neu trwy eiriau eraill, rydym ninnau hefyd yn cael ein wynebu a’n diffygion. Mae bendith a rhyddhad i’w cael mewn cyfaddefiad ac edifeirwch. Ond mae pechod yn arwain at ganlyniadau poenus, i ni’n hunain ac i eraill. Mae Cristnogion heddiw wrth eu bodd gyda tystiolaethau pechaduriaid a achubwyd – mwyaf tanbaid gorau’n byd, efallai. Ond mae’n llawer gwell peidio â mynd yn anghywir yn lle cyntaf; mae pechod difrifol yn gadael trywydd dinistr, os a yw’r pechadur yn edifarhau neu beidio.

Gweddi

Gweddi

Duw, dangos imi fy hun; bydded i dy air fod yn ddrych lle gwelaf fy hun fel yr wyf, fel Dafydd. Tyrd a mi i edifeirwch pan fyddaf yn disgyn, a fy nghadw i rag pechod.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible