Skip to main content

Salm 63.1–11: Cysgod adenydd Duw (12 Mai 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol.

Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Salm 63

Yn Salm 63, mae’r salmydd yn ysgrifennu’n ddirdynnol am ei hiraeth am Dduw. Dywedodd: 'O Dduw, ti yw fy Nuw, fe’th geisiaf di; y mae fy enaid yn sychedu amdanat, a’m cnawd yn dihoeni o’th eisiau, fel tir sych a diffaith heb ddŵr’ (adnod 1).

Mae iaith y salm hon yn hynod ddefosiynol. Nid yw’r salmydd yn mynegi unrhyw ddicter neu alar sydd ynghlwm wrth ei amgylchiadau, nac ychwaith yn gofyn am gymorth yn erbyn ei elynion (er, ceir mynegiant cadarn o hyder yn adnodau 9-10). Yn syml, mae e’n dweud gymaint y mae Duw yn ei olygu iddo a chymaint y mae’n ei garu.

Efallai bod rhai ohonom yn meddwl gormod am ein ffydd, ac yn canolbwyntio’n ormodol ar fanylion credoau neu enwadau. Efallai y byddwn yn canolbwyntio’n ormodol ar wleidyddiaeth sydd ynghlwm wrth eglwysi neu’n cael ein llorio gan fanion sydd ynghlwm wrth fywyd yr eglwys, a hynny’n gallu bod yn rhwystredig ond yn fendithiol hefyd. Nid yw eraill bob amser yn rhoi gwefr inni. Ond mae’r salmydd yn ein dwyn yn ôl at galon y ffydd. Mae’n pwysleisio nad ydym yn Gristnogion oherwydd bod Cristnogaeth yn ddiddorol neu oherwydd yr hyn allwn elwa ohono ond yn hytrach am ein bod wedi’n hargyhoeddi o gariad Duw.

Ac mae’r dyheu am Dduw yn cadarnhau ein ffydd. Fel y dywed C.S. Lewis yn Mere Christianity, 'Creatures are not born with desires unless satisfaction for those desires exists ... If I find in myself a desire which no experience in this world can satisfy, the most probable explanation is that I was made for another world.'

Gweddi

Gweddi

O Dduw, diolch iti dy fod wedi rhoi inni dragwyddoldeb yn ein calonnau, a’th fod yn sicrhau ein bod ar bigau’r drain yn dy gylch. Sicrha bod fy nyheadau yn canolbwyntio arnat ti a gwarchoda fi rhag unrhyw beth sy’n gwneud imi anghofio am dy ras drosof.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible