Skip to main content

Salm 60.1–12: Dy nerth yn ein hachub (11 Mai 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol.

Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Salm 60

Trown at y Salmau i edrych am eiriau sy’n mynegi sut rydym yn teimlo - weithiau ar adegau o orfoleddu ac weithiau ar adegau o alaru. Yn y Salmau hefyd ceir geiriau ar gyfer cyfnodau o aflonyddwch cenedlaethol. Yn Salm 60, darllenwn, “Gwnaethost i’r tir grynu, a’i hollti’n agored.  Selia’r holltau, cyn i’r cwbl syrthio!”(adnodau 2–3). 

Mae’n anodd darllen y fath eiriau heb feddwl am y cyfnod hwn sy’n ein hwynebu yn sgil y coronafeirws. Yn Israel gynt, roedd y fath drychinebau - y pla, goresgyniadau, achosion o newyn - yn cael eu hystyried fel beirniadaeth Duw ar bechod. Rydym yn cymryd cam cywir wrth atal ein hunain rhag gwneud y fath gysylltiadau uniongyrchol gyda’n cyfnod ni. Ond ynghyd â nodi’r boen, mae’r Salm hwn hefyd yn mynegi gobaith a hyder yn Nuw: mae’n dweud fod ganddo’r nerth i achub. 'Gyda Duw fe wnawn wrhydri; ef fydd yn sathru ein gelynion' (adnod 12).

Felly, mae Salm 60 a Salm 61 sy’n dilyn yn Salmau y gellir troi atynt waeth pa bynnag ofidiau sy’n ein hwynebu. Maent yn sôn am bŵer Duw ac yn galw am ei gymorth. Maent yn ein hatgoffa bod Duw yn gofalu drosom ni ac yn ein hamddiffyn gwaeth bynnag fo’r duwch sy’n ein hamgylchynu.

Gweddi

Gweddi

O Dduw, diolch iti am dy ofal drosof hyd yn oed yn y cyfnodau tywyll. Cynorthwya fi i droi atat ti am gysur a nerth pan fo’i angen arnaf, gan wybod dy fod ti yn gryfach na’r gelyn. 


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible