Skip to main content

Salm 55 Gelyn a fu'n ffrind (10 Mai 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol.

Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratô fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Gwna fi'n sicr o'th ddibenion cariadus imi, a llefara i'm bywyd heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Salm 55

Er bod salm ddoe am elynion o bosibl yn teimlo ymhellach o'n profiad o ddydd i ddydd, efallai fod salm heddiw’n taro tant mwy cyfarwydd. Datgelir y 'gelyn' y sonnir amdano ar y dechrau yn adnod 14 fel un fu’n ffrind. 

Mae'n anodd peidio â dwlu ar naws llif ymwybod y salm hon, er ei bod hi'n dilyn patrwm galarnad draddodiadol. Gyda'r salmydd, rydyn ni'n symud drwy gri mewn panig yn adnodau 1–2; yr ofn a'r pryder; gydag adnodau 6–7 yn nodi'r dyhead i ddianc, ac ar ôl ymagwedd gadarnhaol adnodau 18–19 sy’n datgan ymddiriedaeth yng ngallu Duw i achub, rydyn ni'n dychwelyd at y boen yn adnodau 20–22.

Ond clywn o gri adnod 17 nad gweddi uniongyrchol untro mo hon: mae'n weddïo parhaus yn dilyn patrwm yr Hebreaid o weddïo yn y bore, y prynhawn a'r nos – a mwy na digon ar gyfer un diwrnod! Pan na fydd y canlyniadau wedi dod yn weladwy o hyd, mae'r salmydd yn dal i ymddiried yn Nuw: dyna'r lle i adael ei feichiau.

Pan fyddwch chi'n cael eich brifo gan y rhai sydd agosaf atoch, yn enwedig y rhai y buoch chi’n cydaddoli â nhw, efallai, gall fod yn demtasiwn ystyried Duw, neu'r eglwys yn fethiant. Ond does dim angen inni wneud hyn. Pan fyddwn ni'n teimlo bod ffrindiau wedi ein siomi, gallwn gofio bod Iesu wedi'i fradychu a'i siomi gan ei ffrindiau yntau hefyd. Dydyn ni ddim ar ein pennau ein hunain, ac rydyn ni'n gweddïo ar Dduw sy'n deall.

Gweddi

Gweddi

Dad, rwy'n cyflwyno'r amgylchiadau a'r cyfeillgarwch lle cefais fy mrifo a lle roeddwn i’n teimlo fy mod i wedi cael fy mradychu. Boed iti fy nwyn i, a'r rhai eraill oedd ynghlwm wrth hyn, yn ddiogel drwy hyn ac iti adfer ein perthnas â'n gilydd.


Mae Helen Crawford yn Rheolwr Profiad Beibl Digidol Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible