Skip to main content

Rwyt yn adnabod fy nghalon: Salm 17.1–9 (Ebrill 10, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Salm 17

Yn y ‘Good News Bible’, pennawd y salm hon yw, 'Gweddi person diniwed'. Mae hwn yn ddisgrifiad teg: mae'r salmydd yn argyhoeddedig bod Duw yn adnabod ei galon a ‘chwilio fy meddyliau, fy mhwyso a'm mesur a chael dim byd o'i le' (adnod 3). Dywed ei fod ‘wedi dilyn dy lwybrau di, a heb grwydro oddi ar y ffordd o gwbl' (adnod 5). Mae'r salm yn paentio llun o rywun y mae ei fyw ffyddlon wedi ei ddaearu ac wedi darparu sylfaen gadarn ar gyfer wynebu amseroedd o helbul. Mor aml yn y Salmau, mae'r helbulon hyn yn cael eu personoli fel ymosodiadau gan bobl ddrwg. Efallai bod hynny'n wir i ni, ond weithiau pan rydym yn mynd trwy dreialon nad ydynt yn fai ar neb, gall deimlo fel ein bod ni'n cael ein targedu'n bersonol.

Oherwydd y ffordd y mae cymeriad y salmydd wedi cael ei siapio gan oes o ffyddlondeb, gall weddïo'n hyderus, gan ofyn i Dduw ‘Amddiffyn fi fel cannwyll dy lygad. Cuddia fi dan gysgod dy adenydd' (adnod 8). Mae'n ymwybodol o fyw mewn byd peryglus, lle mae’r rhai drwg yn ei wylio fel llewod llwglyd (adnod 12) ac yn rhy aml o lawer yn ymddangos eu bod yn ffynnu. Ond mae ei ddisgyblaeth ffyddlon yn ei arfogi yn erbyn ofn neu amheuaeth.

Gall fod yn anodd cael arferion gweddi a hunanddisgyblaeth ysbrydol, yn enwedig mewn byd sydd â chymaint o bethau yn tynnu ein sylw. Ond maent yn helpu ni trwy'r amseroedd tywyll pan rydym yn teimlo ein bod dan ymosodiad.

Gweddi

Gweddi

Duw, dysg i mi lwybr disgyblaeth amyneddgar. Helpa fi i aros yn dy air ac ymddiried yn dy gariad a thrugaredd o ddydd i ddydd, er mwyn i mi allu sefyll yn gadarn ar adegau o helbul.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible