Skip to main content

O'r mynydd i'r gwastatir: Marc 9.2–18 (Chwefror 6 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Marc 9.2–18

Ar ôl condemniad ffyrnig Iesu o Pedr, sydd wedi ceisio ei droi i ffwrdd o’i lwybr i’r groes, mae Marc yn dweud wrthym am brofiad trosgynnol y mae’n ei rannu gyda Pedr, Iago ac Ioan. Mae'r proffwydi mawr Elias a Moses yn dilysu ei statws fel un eneiniog Duw, yn yr un traddodiad â nhw. Mae Duw ei hun yn siarad ac yn ei alw'n fab. Nid yw'n syndod bod y disgyblion yn ddryslyd ac wedi'u llethu: roedd Iesu wedi creu argraff fel athro a chyflawnwr gwyrthiau, ond roedd hyn ar lefel arall yn gyfan gwbl.

Weithiau rydym yn cael 'profiadau pen y mynydd' ein hunain, pan fydd Duw yn ymddangos yn agos iawn atom ni ac mae'r gorchudd rhwng y ddaear a'r nefoedd yn cael ei godi. Mae'r profiadau hyn yn werthfawr, ond nid ydynt yn rhywbeth arferol.

Mewn rhai ffyrdd, o leiaf o ran ein disgyblaeth feunyddiol, mae'r hyn sy'n digwydd nesaf hyd yn oed yn fwy arwyddocaol. Pan fyddant yn mynd i lawr y mynydd maent yn canfod golygfa llawn dryswch, dicter a methiant: nid yw'r disgyblion sy'n weddill yn gallu gwella bachgen sydd wedi i’w feddiannu gan gythraul.

Mae gweinidogaeth go iawn yn digwydd mewn bywyd cyffredin ac ymhlith pobl gyffredin. Gall fod yn rhwystredig, yn gythruddol ac yn flinedig. Mae profiadau pen y mynydd yno i'n harfogi ar gyfer ein gwaith beunyddiol. Dywed yn emyn David Owen 'The cries of the world and the call of the cross/ Lie below in the valley again’.

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch am yr amseroedd pan fyddi di'n ymddangos yn glir i mi, pan fyddi di’n fy adnewyddu ac yn fy mendithio â dy bresenoldeb. Helpa fi i dderbyn y rhoddion hyn fel addewidion o dy ddyfodol, a dal i fod yn barod i dderbyn fy nghroes a dilyn Crist yn fy mywyd beunyddiol.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible