Skip to main content

Nid fel mae’r byd yn gweld: 1 Corinthiaid 4.6–13 (Chwefror 17, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 1 Corinthiaid 4.6–13

Mae'n eithaf cyffredin clywed rhywun cyfoethog yn cael ei ddisgrifio fel 'gwerth' cymaint o filiynau neu biliynau o bunnoedd. Mae hon yn ffordd eithaf dadlennol o siarad. Mae'n dangos beth mae cymdeithas yn ei werthfawrogi; mae 'gwerth' yn cael ei farnu yn ôl faint o arian sydd gan rywun, yn hytrach nag yn ôl ei gymeriad neu sut maent yn trin pobl eraill.

Dyna'r sefyllfa a adlewyrchir yn 1 Corinthiaid 4. Nid oedd gostyngeiddrwydd yn rhinwedd a oedd yn cael ei barchu yn y byd Rhufeinig. Roedd pobl yn dyheu am gael eu hanrhydeddu a'u hofni. Roedd yr Eglwys Gristnogol newydd yn troi hyn oll ben i waered: roedd ei sylfaenydd wedi dioddef gwarth  croeshoeliad, ac roedd disgwyl i'w ddilynwyr fyw yn unol â hynny.

Nid yw'n syndod bod llawer yn ei chael hi'n anodd. Roedd Paul yn ysgrifennu at bobl a oedd yn cystadlu am safle ac yn barnu ei gilydd yn ôl safonau dynol. Mae'n ymddangos mai rhan o'r broblem oedd bod athro arall, Apolos, yn ffigwr mwy trawiadol na Paul, ac roedd rhai’n ceisio eu troi yn erbyn ei gilydd.

Mae Paul yn eu hatgoffa mai rhodd gan Dduw yw popeth sydd ganddynt (adnod 7). Mae’n eu hatgoffa bod yr apostolion eu hunain yn cael eu herlid a’u dirmygu (adnodau 11–13).

Mae ein byd heddiw yn orlawn o gyfoeth, teitlau a chyflawniadau. A phan rydym yn cael ein plesio gan y pethau hyn yn yr Eglwys - statws pregethwr gwych neu arweinydd addoli neu ysgrifennwr, er enghraifft - mae angen i ni atgoffa'n hunain nad yw'r pethau hyn yn bwysig i Dduw, ac ni ddylent fod yn bwysig i ni.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i barchu pobl sy'n debyg i Grist, waeth beth yw eu cyflawniadau bydol. Helpa fi i beidio â chael fy ysgogi gan edmygedd pobl eraill, ond gan yr awydd i fod fel Iesu.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible