Skip to main content

Nerth i’r daith: Ioan 4.43–54 (13 Rhagfyr 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Ioan 4.43–54

Roedd gwyrthiau iachau Iesu fel arfer yn digwydd wyneb yn wyneb. Mae’r un yma yn debyg i iachâd gwas y canwriad yn Mathew 8 a Luc 7; mae’n digwydd o bell. Mae ef yng Nghana; mae mab swyddog o’r llywodraeth yn marw yng Nghapernaum. ‘Dos di,” meddai Iesu wrtho, “mae dy fab yn mynd i fyw’ (adnod 50).

Beth fyddai wedi bod ar feddwl y dyn wrth iddo gychwyn ar ei daith? Roedd yn fwy nag 16 milltir. A ydym i ddychmygu ei fod yn hyderus, yn trotian ar gefn ei geffyl heb boen yn y byd? Nid yw’n ymddangos yn debygol. Mae’n ymddangos iddo gael ei ddal yn ôl ar ei daith (adnod 52), pwysau ychwanegol. Waeth pa mor gryf oedd ei ffydd, byddai wedi bod llawn pryder ac ofn, yn ysu am weld ei fab yn iach, gan obeithio a gweddïo'r holl ffordd. Roedd y newyddion a gafodd ar y ffordd yn fendith, gan dorri ei brawf yn fyr, ond gallwn ddychmygu ei deimladau.

Mae tebygrwydd yma i’n siwrneiau ein hunain. Efallai’n wir ein bod yn ‘credu’, fel y gwnaeth swyddog y llywodraeth; ond mae’n rhaid i ni fynd trwy gyfnodau o brawf a her o hyd. Efallai y byddwn yn wynebu amheuon ac ofnau ar hyd y ffordd. Efallai y byddem yn dymuno inni gael ateb i’n holl gwestiynau a dileu ein pryderon, ond nid yw’n gweithio felly. Fel y dywedodd yr ysgrifennwr o’r ail ganrif, Clement o Alexandria: ‘Efallai na fyddwn yn cael ein cludo i ddiwedd ein taith, ond rhaid teithio yno ar droed, gan droedio’r pellter cyfan y ffordd gul’.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i ddal ati pan fydd y ffordd yn anodd. Cadwa fi’n ffyddlon i dy addewid, a chredu yn dy air.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible