Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.
Mae cenedl newydd Israel yn dod i fodolaeth, ac mae'n rhaid creu ei deddfau o'r newydd. Mae gan bawb gwestiynau, mae llawer i'w benderfynu ac mae Moses yn teimlo mai ef yw'r unig un sy'n gallu ei wneud. Mae'n gofalu ei fod ar gael yn barhaol, ac mae ei dad-yng-nghyfraith doeth Jethro yn gweld ei fod bron wedi ymlâdd. Mae Moses yn ddigon doeth i ddilyn ei gyngor, ac mae'n rhannu ei gyfrifoldebau i eraill. Mae'n dweud llawer am Moses a'r rhai y mae'n dewis gweithredu yn ei le, a llawer am y bobl hefyd; maent yn barod i dderbyn nad yw Duw yn siarad trwy eu harweinydd yn unig.
Mae rhai pobl yn gyfforddus â llawer o gyfrifoldebau; eraill, dim cymaint. Gall hyd yn oed y rhai sy'n gyfforddus teimlo eu bod yn anhepgorol. Yn y tymor hir, nid yw hynny'n iach naill ai iddynt eu hunain nac i'r sefydliad - eglwys, busnes, hyd yn oed gwlad ¬– maent yn ei rhedeg. Mewn teuluoedd, hefyd, gall baich cynllunio a gwneud penderfyniadau ddisgyn ar un person pan ddylid ei rannu gyda phriod, neu pan allai rhwydweithiau teulu neu gyfeillgarwch ehangach helpu.
Mewn cylchoedd Cristnogol rydym yn tueddu i edrych at arweinwyr i wneud penderfyniadau drosom; wedi'r cyfan, mae Duw wedi eu galw i'w rôl. Ond dywed Iesu ei fod gyda'r 'ddau neu dri' sy'n dod at ei gilydd (Mathew 18.20), ac yn y Pentecost daeth yr Ysbryd ar yr holl ddisgyblion (Actau 2.4). Yn yr Ysgrythur, rhennir cyfrifoldeb yn aml.
Duw, helpa fi i sylweddoli nad ydw i'n anhepgorol, a dy fod di'n defnyddio eraill cymaint ag yr wyt ti’n fy nefnyddio i. Helpa fi i ollwng cyfrifoldebau pan fydd angen i mi, a'u codi pan fydd angen i mi wneud hynny hefyd.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.