Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Read these in English.
Mewn byd lle mae gwybodaeth ar gael yn fwy nag y bu erioed o'r blaen a ble rydym i gyd yn gysylltiedig â phawb arall, rydym yn ymwybodol iawn nad yw’r byd y lle y bwriadwyd iddo fod. Gyda'i holl harddwch a'i obaith, mae gormod o lawer o leoedd lle mae pobl yn byw bywydau cul, poenus a byr sy'n llawn ofn. Mae Salm 9 wedi'i lunio fel apêl bersonol at Dduw i weithredu gyda chyfiawnder, ond mae'n mynd yn ehangach na hynny: nid yw'n ymwneud â chyflwr un person yn unig, ond y byd cyfan. 'Mae'r Arglwydd yn hafan ddiogel’, meddai'r salmydd (adnod 9); ‘Dydy e ddim yn diystyru cri y rhai sy'n dioddef' (adnod 12).
Mae'r weledigaeth hon o gyfiawnder i'r rhai sy'n dioddef camwedd wedi'i hymgorffori yn yr Ysgrythur o'r cychwyn cyntaf. Mae Duw yn erbyn y rhai sy'n gormesu pobl wannach na nhw eu hunain. Os ydym yn y sefyllfa honno, mae Duw ar ein hochr ni; a dylem fod ar ochr pawb yn y sefyllfa honno. A phan ddarllenwn y salm hon dylem ganiatáu iddi ein herio yn ogystal â'n cysuro ¬– a ydym yn hollol siŵr nad oes unrhyw un a allai ein cyhuddo o fod ar ochr y gormeswyr? Mae pawb yn byw o dan ei farn, p'un a ydynt yn ei wybod ai peidio – y bwli yn yr ystafell ddosbarth, yr eglwys neu'r gweithle yn ogystal â'r archryfelwr neu'r unben.