Skip to main content

Hebreaid 4.12–13: Yn fyw ac yn cyflawni beth mae’n ei ddweud (28 Ebrill 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol.

Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratô fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Gwna fi'n sicr o'th ddibenion cariadus imi, a llefara i'm bywyd heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Hebrews 4.12–13

Mae rhan gyntaf Hebreaid 4 yn myfyrio ar y Sabath yng nghyd-destun aros yn ffyddlon i'r efengyl. Mae'r ‘lle saff i orffwys’ yn wobr am ffyddlondeb neu'n ganlyniad iddo. Yn adnod 12, serch hynny, mae'r ysgrifennwr fel petai'n troi'n sydyn, yn sgil ei deimlad, efallai, fod yr Ysgrythurau'n llefaru mor eglur i'r sefyllfa yr oedd yn cyfeirio ati. Mae gair Duw, meddai, ‘yn fyw ac yn cyflawni beth mae'n ei ddweud. Mae'n fwy miniog na'r un cleddyf’, mae’n ‘barnu beth dŷn ni'n ei feddwl ac yn ei fwriadu’. 

Un o'r pethau rhyfeddol am y Beibl yw, er iddo gael ei ysgrifennu gymaint o amser yn ôl, ei fod mor hynod berthnasol i'n sefyllfa heddiw. Yn Salm 19 mae'r salmydd yn cymharu'r Ysgrythurau â'r haul – ‘does dim yn gallu cuddio rhag ei wres’ (adnod 6). Nid datgelu Duw inni yn unig y mae'r Beibl. Pan fydd angen doethineb, neu her, neu gywiriad, cawn hyn yn yr Ysgrythurau. Rydym yn byw drwy gyfnod anghyffredin o anodd, ond pan fydd arnom angen cysur neu sicrwydd, cawn hyn yn y Beibl – mewn mannau fel Salm 23, sy'n dweud, ‘Hyd yn oed mewn ceunant tywyll dychrynllyd, fydd gen i ddim ofn, am dy fod ti gyda mi’ (adnod 4), neu Salm 46 sy'n dweud, ‘Mae Duw yn ein cadw ni'n saff ac yn rhoi nerth i ni. Mae e bob amser yna i'n helpu pan mae trafferthion’ (adnod 1). 

Y Beibl yw rhodd Duw inni. Mae'n ein rhoi ar brawf, yn ein holi ac yn ein barnu, ond mae'n rhoi gobaith inni hefyd.

Gweddi

Gweddi

Dduw, diolch iti am dy air, y Beibl. Cynorthwya ni i'w ddarllen yn ostyngedig, a gad iddo siarad â ni yn ôl ein hangen: wrth ddatgelu dy natur, wrth farnu ein beiau ac wrth gysuro ein trallod. 


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible