Skip to main content

Hebreaid 3.12–19: Peidiwch â chefnu ar Dduw (27 Ebrill 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol.

Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratô fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Gwna fi'n sicr o'th ddibenion cariadus imi, a llefara i'm bywyd heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Hebrews 3.12–19

Ysgrifennwyd y Llythyr at yr Hebreaid mewn cyfnod o erledigaeth, ac mae'n cynnwys llawer o gyfeiriadau at aros yn ffyddlon. Ni ein hunain sy’n gyfrifol am fod yn ddisgyblion, ond mae'r awdur yn ein hannog hefyd fel hyn: ‘helpwch eich gilydd bob dydd’ (adnod 13). Rydym yn atebol i'n gilydd fel cymuned, hefyd. 

Rydym yn byw mewn cyfnod anghyffredin o anodd, pan nad yw hi bellach yn ddiogel i eglwysi gwrdd. Ond nid yw hon yn sefyllfa hollol newydd. Mae rhannau o'r byd lle mae Cristnogion yn cael eu gwahardd rhag ymgasglu oherwydd gwladwriaethau gormesol. Bu adegau eraill pan oedd clefydau’n gwneud iddi fod yn amhosibl cwrdd. Mae rhai credinwyr wedi'u hynysu oherwydd eu cyflwr bregus neu eu salwch, ac efallai y gallai'r sefyllfa hon ein gwneud ni'n fwy sensitif i'w hanghenion nhw pan fyddwn yn gallu cwrdd eto. 

Yn y cyfamser, mae gennym gyfrifoldeb arbennig i’n helpu a’n cefnogi ein gilydd wrth gynnal y ffydd. Yn ôl CS Lewis yn Mere Christianity: ‘Mae'n rhaid inni gael ein hatgoffa'n barhaus o'r hyn yr ydym yn credu ynddo. Ni fydd y gred hon nac unrhyw un arall yn aros yn fyw yn y meddwl o'i rhan ei hun. Mae'n rhaid ei bwydo hi. Ac mewn gwirionedd, petaech chi'n edrych ar gant o bobl a oedd wedi colli eu ffydd mewn Cristnogaeth, tybed sawl un ohonynt yn y pen draw y byddai'n bosibl i ddadl onest eu darbwyllo fel arall? Onid ymbellhau yn ddiarwybod y mae’r rhan fwyaf o bobl?’ 

Perygl peidio â chwrdd yw bod pobl yn colli arfer ffydd. Mae arnom gyfrifoldeb i gadw ein chwiorydd a'n brodyr yn ffyddlon. 

Gweddi

Gweddi

Dduw, cadw fi rhag temtasiwn difaterwch. Cadw fi i gerdded yn agos atat, a helpa fi i fod o gymorth i eraill. 


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible