Skip to main content

Gwneud y peth iawn: 1 Corinthiaid 10.1–13 (Chwefror 23, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 1 Corinthiaid 10.1–13

Ar ddechrau'r bennod hon, mae Paul yn mynd yn ôl i hanes Israel i wneud pwynt am gyfrifoldeb. Wrth i'r bobl grwydro yn yr anialwch ar ôl gadael yr Aifft, fe wnaethant bechu yn erbyn Duw dro ar ôl tro, a dioddef yn unol â hynny. Felly, meddai Paul, dylai Cristnogion gymryd sylw; mae drygioni’n arwain at ganlyniadau.

Weithiau dehonglir adnodau 12-13, sy'n cynnwys yr addewid na fydd Duw ‘ddim yn gadael i'r temtasiwn fod yn ormod i chi', fel addewid y byddwn yn gallu ymdopi â beth bynnag y mae bywyd yn ei daflu atom. Mae llawer ohonom yn mynd trwy gyfnodau caled iawn, gyda salwch, perthnasoedd  yn chwalu, ac unrhyw nifer o rwystredigaethau a methiannau, ac rydym yn ddiolchgar iawn am bresenoldeb parhaus Duw gyda ni. Ond nid dyna hanfod yr adnodau hyn.

Maent wir yn siarad am ein cyfrifoldeb i wneud y peth iawn, hyd yn oed pan rydym yn cael ein temtio i wneud drygioni. Ni allwn osgoi ein cyfrifoldeb trwy ddweud 'Roedd yn rhy anodd' neu 'Y diafol wnaeth imi ei wneud.' Efallai y byddwn yn wynebu sefyllfaoedd lle mae'n wirioneddol anodd gwybod y ffordd iawn i weithredu ac ni fyddwn bob amser yn ei gael yn iawn, ond rydym yn cael y nerth i ‘beidio rhoi mewn’.

Rhaid i ni gyfaddef bod rhai pobl yn ei chael hi'n haws i fod yn 'dda' nag eraill. Mae pob un ohonom yn wynebu gwahanol demtasiynau; mae'r hyn sy'n anodd i un person yn haws i berson arall, p'un ai oherwydd ein tueddiadau naturiol neu arferion. Ond mae Paul yn ein herio i gymryd cyfrifoldeb: gyda chymorth Duw, gallwn wneud dewisiadau cywir.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i beidio â bod yn feirniadol os yw eraill yn methu pan maent yn cael eu temtio gan bethau sydd ddim yn demtasiwn i mi. A helpa fi i aros yn gryf a gwneud y peth iawn pan fyddaf yn wynebu dewisiadau sy'n anodd iawn i mi.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible