Skip to main content

Gweddïau'r rhai sy’n cael eu gorthrymu: Salm 10.1–18 (Ebrill 6, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Salm 10

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae camwedd gan bobl bwerus wedi creu penawdau’n gynyddol. Rydym wedi darllen am ddrygioni mewn safleoedd uchel mewn gwleidyddiaeth, busnes a'r Eglwys, o gam-drin rhywiol i sgandalau ariannol. Ymddengys mai thema gyffredin oedd bod y rhai sy'n gyfrifol yn teimlo'n anorchfygol. Nid oeddent yn credu bod angen iddynt ddilyn yr un rheolau â phobl gyffredin oherwydd eu bod yn gyfoethog ac yn ddylanwadol; gallent wneud beth bynnag y dymunent.

Nid oes unrhyw beth newydd am hyn. Yn Salm 10, dywed yr 'annuwiol' wrthynt eu hunain, ‘Dw i'n hollol saff. Mae popeth yn iawn! Fydda i byth mewn trafferthion' (adnod 6). Maent yn dweud wrthynt eu hunain ‘Dydy Duw ddim yn poeni! Dydy e'n cymryd dim sylw. Dydy e byth yn edrych!’ (adnod 11).

Mae'r salmydd yma yn paentio llun o sut mae pobl pan fyddant yn teimlo eu bod yn anatebol. Mae gogwydd yn y natur ddynol tuag at bechod, y mae angen ei reoli a'i gywiro. Gall deddfau da ac arferion da helpu, ond dim ond trwy Ysbryd Glân Duw y gall y galon gael ei thrawsnewid.

Mae'r 'drygionus' - y pechaduriaid ar raddfa fawr sy'n gwneud penawdau, yn y carchar neu'n warth yn llygad y cyhoedd, a'r rhai’r sy’n gwneud gweithredoedd bach, sbeitlyd ac yn gwneud bywydau eu teuluoedd neu eu cydweithwyr yn ddigalon – oll yng ngolwg Duw, p'un a ydynt yn gwybod ai peidio. ‘Ti'n gwrando ar lais y rhai sy'n cael eu gorthrymu yn crefu arnat, O ARGLWYDD', meddai'r salmydd; ‘Byddan nhw'n teimlo'n saff am dy fod ti'n gwrando arnyn nhw’ (adnod 17).

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i gofio bod popeth rydw i'n ei wneud yn dy olwg di. Pan welaf bobl ddrygionus yn ffynnu, helpa fi i beidio â bod ofn ohonynt ond i ymddiried yn dy rym i achub.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible