Skip to main content

Ffydd a gweithredoedd: 2 Brenhinoedd 13.14–21 (30 Hydref 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 2 Brenhinoedd 13.14–21

Yn y cyfnod hwn yn hanes Israel mae’r genedl dan ymosodiad parhaus gan y Syriaid i’r gogledd, ac yn gwrthdaro’n achlysurol â Jwda i’r de. Mae mab y Brenin Jehu, Jehoachas, a’i ŵyr Jehoas yn cael eu condemnio am ‘arwain Israel i bechod’, ond mae’r ddau ohonynt yn gweddïo i’r ARGLWYDD; nid ydynt wedi troi eu cefnau yn llwyr ar ffydd eu cyndeidiau, a hyd yn hyn o leiaf, mae Israel wedi goroesi.

Ar y pwynt hwn, ar ddiwedd ei oes, mae Eliseus yn ailymddangos. Mae Jehoas yn talu teyrnged ac o dan deimlad. Mae’r proffwyd yn dweud wrtho am gyflawni dwy weithred symbolaidd: saethu saeth allan drwy’r ffenest, a tharo’r ddaear gyda saethau eraill. Mae Jehoas yn cael y cyntaf yn iawn (adnod 17), ond – efallai wedi’i drysu gan gais Eliseus – ddim yn hollol siŵr ynglŷn â’r ail (adnod 19).

Nid ydym i ddychmygu bod yna ryw fath o berthynas ‘hudol’ rhwng taro’r ddaear gyda’r saethau a threchu’r Syriaid. Gweddïau yn cael eu gweithredu yw’r gweithredoedd symbolaidd hyn, sydd oherwydd pŵer ysbrydol Eliseus a’i berthynas â’r Arglwydd, yn arwain at ganlyniadau go iawn. Roedd Eliseus yn ddig wrth Jehoas oherwydd ei ddiffyg argyhoeddiad: nid oedd yn credu mewn gwirionedd yn yr hyn yr oedd yn ei wneud.

Yn y Testament Newydd, mae Iago yn condemnio ‘credu heb weithredu’ (2.26). Yn hwyr neu’n hwyrach, os ydym wir yn credu yn Nuw, bydd yn rhaid i ni ymrwymo ein hunain galon ac enaid i wneud yr hyn y mae ei eisiau, hyd yn oed os nad ydym yn deall yn iawn ble y bydd yn mynd â ni. Mae ymrwymiad claear yn arwain at hanner canlyniad.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i fod yn ffyddlon mewn gweithredoedd yn ogystal â mewn geiriau. Gad imi fod yn galonnog yn fy ngwasanaeth i ti, yn barod i dy wasanaethu heb ddal unrhyw beth yn ôl.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible