Skip to main content

Ergyd ar ôl ergyd: 2 Samuel 16.1–14 (19 Medi 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 2 Samuel 16.1–14

Mae Dafydd a’i lywodraethiad wedi mynd i anrhefn gan wrthryfel Absalom. Ynghanol y sgrialu am ddiogelwch, mae teyrngarwch yn chwalu ac mae llawer o bobl yn ceisio gwneud y gorau i’w hunain o’r sefyllfa. Ymhlith y rhain mae Siba, cyn-was i Saul ac sydd bellach yn was i’w ŵyr, Meffiboseth. Roedd Dafydd wedi dangos caredigrwydd i Meffiboseth, a oedd yn gloff, ac wedi adfer eiddo Saul iddo (2 Samuel 9). Nawr mae Siba yn ei gyhuddo – ar gam fel rydym yn darganfod ym mhennod 19 – o gynllwynio i adfer gorsedd Saul, yn y gobaith – yn optimistaidd, o dan yr amgylchiadau – o dderbyn yr eiddo iddo’i hun. Mae un arall o berthnasau Saul, Shimei, yn dilyn Dafydd ac yn ei felltithio; mae un o ddynion caled Dafydd, Abishai, eisiau ei ladd, ond mae Dafydd yn gwrthod ei ganiatáu.

Roedd y digwyddiadau hyn yn cynrychioli ergydion mwy dinistriol i Dafydd. Roedd ef wedi meddwl bod ei reol yn cael ei dderbyn gan deulu a dilynwyr Saul; nawr, roedd yn ymddangos nad ydoedd. Gweithred Absalom o dreisio gordderchwragedd Dafydd – a gyflawnodd proffwydoliaeth Nathan ar ôl ei bechod gyda Bathseba (12.11-12) – oedd y brad pennaf.

Mae Dafydd ar ei bwynt isaf, wedi’i wrthod a’i fychanu. Yn ei sefyllfa ef, byddai llawer wedi rhoi’r gorau iddi a cherdded i ffwrdd. Mae ei gryfder mewnol, serch hynny, yn deillio o berthynas ddofn â Duw. Mae beth sydd wedi digwydd yn ei gyffwrdd yn ddwfn, ond mae bob amser yn ceisio ei weld yn gysylltiedig ag ewyllys Duw ar ei gyfer (adnod 12).

Dywed y salmydd, ‘Dw i mor ymwybodol fod yr ARGLWYDD gyda mi. Mae'n sefyll wrth fy ochr, a fydd dim byd yn fy ysgwyd.’ (16.8) Daw gwir wytnwch o ymwybyddiaeth ddofn o bresenoldeb Duw.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i fyth amau yn y tywyllwch beth rwyt ti wedi ei ddangos imi yn y goleuni. Cadwa fi’n ymwybodol o dy bresenoldeb hyd yn oed pan fyddaf yn teimlo’n fwyaf unig.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible