Skip to main content

Doniau’r Ysbryd: 1 Corinthiaid 12.1–12 (Chwefror 25, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 1 Corinthiaid 12.1–12

Weithiau mae Paul yn ysgrifennu diwinyddiaeth ddofn iawn y byddwn yn pendroni drosto ac yn penderfynu ei bod yn rhy anodd i ni. Ar adegau eraill, fel hyn, mae'n glir iawn. Mae'r Ysbryd yn rhoi doniau gwahanol i ni i gyd, meddai. Yn sail i'w ddysgeidiaeth i'r eglwys Gorinthaidd mae'r syniad na ddylem ddisgwyl cael dawn rhywun arall ac y dylem fod yn fodlon â'n rhai ni. Yr hyn sy'n bwysig yw bod doniau pawb yn cyfrannu at adeiladu'r eglwys gyfan.

Mae sicrwydd yma, a her. Mae'n ymddangos bod y sicrwydd yn cyd-fynd â llawer o negeseuon modern sy'n canolbwyntio ar gyflawniad unigolion, gan deimlo'n dda amdanom ein hunain oherwydd bod gennym bethau unigryw i'w cynnig i'r byd. Nid oes unrhyw beth o'i le â hyn, wrth gwrs, ac mae neges Paul bod yr 'Ysbryd i'w weld yn gweithio ym mywyd pob unigolyn er lles pawb arall' (adnod 7) yn gysur i bob un ohonom: nid oes unrhyw un yn ddi-werth, ac mae gan bob un ohonom rywbeth arbennig amdanom ni oherwydd bod Ysbryd Duw yn byw ym mhob un ohonom.

Yr her, serch hynny, yw nad yw hyn yn ymwneud â hunan-gyflawniad yn unig. Rhoddir ein doniau i ni er mwyn pobl eraill - 'er lles pawb' fel mae adnod 7 yn diweddu. Dyma wiriad realiti go iawn. Nid yw ein doniau er ein mwynhad neu ein helw ein hunain, ond er budd pawb. Nid yw cymuned ein heglwys yn rhywle lle rydym yn ceisio rheoli eraill, neu gystadlu am sylw; mae’n fan lle rydym yn ostyngedig yn rhoi'r hyn rydym ni wedi'i gael.

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch am y doniau rwyt wedi'u rhoi i mi. Diolch fy mod i'n unigryw, a dy fod di wedi fy ngwneud i er dy ogoniant. Helpa fi i ddefnyddio fy noniau i adeiladu eraill, yn hytrach na cheisio disgleirio er mwyn mantais fy hun.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible