Skip to main content

Disgyblaeth eithafol: Sechareia 5.1–11 (17 Rhagfyr 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Sechareia 5.1–11

Mae dwy weledigaeth ym mhennod 5: y sgrôl yn hedfan a’r wraig yn y gasgen. Mae’r ddau yn ymwneud â glanhau drygioni o’r tir. Mae’r sgrôl enfawr yn hedfan fel ystlum neu aderyn ysglyfaethus. Yn ddidrugaredd, mae’n chwilio am y lladron a’r celwyddwyr sy’n amharchu Duw ac yn tanseilio cymdeithas. Mae’r wraig wedi’i chynnwys mewn casgen ‘effa’, llawer rhy fach i unrhyw un ffitio y tu mewn iddo mewn bywyd go iawn. Yn arwydd o ddrygioni, mae hi wedi’i selio’n ddiogel y tu mewn, yn cael ei chludo’n ôl i Babilon lle mae’n perthyn, ac yn addoli yno.

Mae gan y gweledigaethau rhyfedd hyn thema. Mae pobl Dduw yn cael eu hadfer i’w tir, ac maent yn cael dechrau o’r newydd. Ni allant ddisgwyl cael eu bendithio os ydynt yn ymddwyn yn anonest. Ni allant chwaith ddisgwyl cael eu bendithio os ydynt yn addoli duwiau a duwiesau paganaidd, nad oedd lle iddynt yn eu gwlad; fe wnaeth y math yna o beth eu cael i drafferth yn y lle cyntaf. Mae darluniau pregeth byw Sechareia yn gyrru’r ddysgeidiaeth adref: maent yn perthyn i Dduw, a dylent fyw yn unol â hynny.

Mae rhywbeth pwerus iawn am y gweledigaethau hyn. Maent yn rhoi egni a dychymyg i foesoldeb a diwinyddiaeth. Rydym i gyd yn gwybod bod dweud celwydd a dwyn yn anghywir, ond efallai nad oes gennym ymdeimlad Sechareia o ofn at y pechodau hyn. Rydym yn ceisio peidio ag ‘addoli’ pethau fel cyfoeth neu bŵer, ond efallai na fyddwn yn selio ein huchelgeisiau pechadurus â phlwm, ac yn eu gyrru ymhell o gyrraedd. Mae disgyblaeth yn feichus. Mae Duw eisiau popeth sydd gennym.

Gweddi

Gweddi

Duw, gwna fi’n sensitif i bechod yn fy mywyd, a dyro arswyd sanctaidd imi o wneud drwg. Cadw fi’n ffyddlon iti mewn meddwl, gair a gweithred.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible