Skip to main content

Dim ceffyl rhyfel?: Mathew 21.1–11 (10 Gorffennaf 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, trugarha. Glanha fi. Llonydda fy meddwl. Helpa fi i wrando wrth i ti siarad.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Mathew 21

Roedd proffwyd yr Hen Destament, Sechareia, wedi siarad am ddiwrnod pan fyddai’r Meseia’n cyrraedd, nid ar geffyl rhyfel ond ar asyn. Roedd y bobl a oedd yn bloeddio am yr Iesu wrth iddo fynd i mewn i Jerwsalem wedi treulio eu bywydau cyfan o dan lywodraeth y Rhufeiniaid. Ni allent aros i’r proffwyd ifanc hwn gyflawni addewid Sechareia a’u gwaredu o Pilat a’i griw.

Siom a ddaeth yn fuan, serch hynny; yn hytrach na gyrru’r llywodraethwyr tramor allan, dewisodd Iesu frwydr gyda’i bobl ei hun. O fewn dyddiau i’w fynediad buddugoliaethus, roedd yn wynebu llys barnwrol. 

Byddai Iesu’n mynd ymlaen i ddweud wrth ffrind a ddaeth i’w amddiffyn i roi ei gleddyf i gadw. Byddai’n ymatal rhag galw ar lengoedd o angylion i drechu ei elynion. Mae ei wrthodiad i arddel pŵer a defnyddio trais wedi hollti barn byth ers hynny. Mae rhai yn ei ystyried yn binacl moeseg, ac eraill yn agor y llifddorau i ormes ac anghyfiawnder. Dyna’r hyn ydyw. Daeth Iesu i wasanaethu eraill, nid er mwyn i bobl ei wasanaethu ef, ac i roi ei fywyd yn dâl dros lawer.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, rho imi’r dewrder i gyfnewid fy ngheffyl rhyfel am asyn.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Michael Pfundner, Rheolwr Cefnogi Cyhoeddi Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible