Skip to main content

Wedi ein galw gan ras Duw: Deuteronomium 7.1–8 (2 Mehefin 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Deuteronomium 7

Mae’r rhannau o’r Beibl sy’n ymddangos fel pe baent yn ymwneud â Duw yn gorchymyn yr Israeliaid ddifa eu gelynion yn aml yn anodd i ni. Maent yn gofyn i ni fod yn ystyriol ynghylch y ffordd rydym yn eu darllen, ac nid yw Cristnogion bob amser wedi bod yn ystyriol o gwbl; mae ‘rhyfel sanctaidd’ lle mae Cristnogion wedi apelio at destunau fel hyn i gyfiawnhau lladd eu gelynion, wedi bod yn staen ar ein hanes yn rhy aml.

Fodd bynnag, pan feddyliwn yn ddyfnach, efallai y cydnabyddem fod yr Ysgrythur ysbrydoledig yn tarddu o sefyllfaoedd hanesyddol go iawn ac wedi’i hysgrifennu gan ddwylo dynol. Mae angen i ni ddysgu dirnad y neges barhaus y mae Duw yn ei siarad trwy’r straeon anodd hyn. Yn yr achos hwn, mae’n rhaid iddo ymwneud ag unigrywiaeth yr Israeliaid: roedden nhw’n wahanol i’r cenhedloedd cyfagos, nid oherwydd eu bod yn gryfach (adnod 7) ond yn syml am fod Duw wedi eu dewis (adnod 6). Roeddent i gynnal eu hunigrywiaeth gan wahanu eu hunain oddi wrth bopeth a fyddai’n ei gyfaddawdu, ac yn enwedig addoli duwiau eraill – a dyna’r rheswm am y gwaharddiad ar briodasau rhwng yr Iddewon a phobl eraill (adnodau 3-4).

Felly mae dwy wers i gredinwyr Cristnogol heddiw, ‘plant i Abraham’, a fydd ‘yn derbyn yr holl bethau da mae Duw wedi’u haddo’ (Galatiaid 3.29). Yn gyntaf, rydym ni hefyd i fod yn Gristnogol amlwg, gan ddilyn Crist yn unig. Ond yn ail, rydym ninnau hefyd wedi cael ein galw nid oherwydd unrhyw beth rydym wedi’i wneud i’w haeddu, ond oherwydd gras Duw.

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch iti am fy ngalw yn union fel rydw i. Helpa fi i beidio ag anghofio pwy ydw i, a gad imi fyw bob amser yng ngoleuni dy ras.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible